大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
大象传媒 CymruMosgito, y sioe

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Beth yw Mosgito?

Beth yw Mosgito?

Beth yw bbc.co.uk/mosgito? Mae bbc.co.uk/mosgito yn rhan o brosiect ehangach Mosgito sydd hefyd yn cael ei ddarlledu ar y teledu ar gyfer bechgyn a merched 12-15 oed. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gynulleidfa i sicrhau fod y cynnwys yn berthnasol ar gyfer yr oedran yma. Mae'r wefan yn cynnig cipolwg ar gynnwys y rhaglenni, cyfle i gysylltu gyda'r t卯m a dod yn rhan o gymuned Mosgito. Mae'r wefan hefyd yn ceisio cynnig gwybodaeth realistig, di-lol ynglyn 芒 phrofiadau bywyd pobl ifanc 12-15 oed drwy gyfrwng testun ac animeiddiadau - e.e. addysg ryw, bwlio, delwedd personol ac ati.

Amdanat Ti Mae'r adran 'Amdanat Ti' yn ymdrin 芒 phynciau sy'n poeni cynulleidfa Mosgito. Rydym yn ymwybodol fod pobl ifanc o oedran darged Mosgito yn poeni am y math yma o gwestiynau yn 么l ein ymchwil a thrafodaethau gyda doctoriaid pobl ifanc yr oedran yma. Mae bbc.co.uk/mosgito yn darparu gwybodaeth ar ffurf testun yn yr adran hon ac mae cynulleidfa Mosgito yn rhydd i roi eu barn ar y cynnwys yma drwy'r wefan. Mae'r adran 'Amdanat Ti' hefyd yn cynnwys yr animeiddiadau 'Ydw i'n Od' er mwyn taclo yr un wybodaeth ond mewn dull gweledol a chomediol er mwyn annog sgwrs. Falle dy fod yn teimlo na alli di drafod rhai o'r pynciau yma yn gyhoeddus neu gyda oedolyn felly mae'r adran 'Amdanat Ti' yn cynnig gwybodaeth y galli di ei ddarllen a'i wylio yn breifat. Cofia os wyt ti wir yn poeni am rai o'r pynciau yma, y dylet ti gysylltu gyda dy ddoctor neu oedolyn all dy helpu.

Pam dewis yr enw Mosgito?!... ...Am ein bod eisiau i ti ymddwyn fel Mosgito a'n pigo ni gyda dy gynnwys, syniadau ac ambell awgrym am sut i wella'n cynnwys. Mi fydd Mosgito hefyd yn dy bigo di o bryd i'w gilydd! Syniad y prosiect yw mai cynnwys y gynulleidfa sy'n bwydo'r wefan a'r rhaglen deledu, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu cynnwys sydd o wir ddiddordeb i bobl ifanc 12-15 oed.

Pwy sy'n creu Mosgito? Mae bbc.co.uk/mosgito yn cael ei greu gan d卯m yn 大象传媒 Cymru, gyda help rhyddgyfranwyr, dylunwyr, rhaglenwyr a chymuned Mosgito.

Sut alla i fod yn rhan o gymuned Mosgito? Mi alli di gysylltu gyda ni drwy ddefnyddio'r dudalen Cysyllta neu anfon dy gynnwys drwy'r Rhwyd.




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy