大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
大象传媒 CymruMosgito, Perthyn

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Cyflwynydd Mosgito Erin gyda'i chwiorydd a Griff y ci

Brodyr a chwiorydd

Ydy'n bosib bod yn ffrindiau gyda dy frawd neu chwaer?

Faint ohonoch chi sy'n ffrindiau da gyda'ch brodyr neu'ch chwiorydd? Pan ydyn ni'n ein harddegau, mae hi'n gallu mynd yn anoddach cyd-dynnu gydag aelodau'r teulu am eu bod nhw - a ni - yn newid.

Pethau gwael yngl欧n 芒 chael brawd neu chwaer: 1. Maen nhw'n tynnu dy goes yn waeth na neb ac yn gwybod beth sy'n dy frifo. 2 Maen nhw'n gwybod sut i gael eu ffordd eu hunain gyda mam a dad. 3 Os ydyn nhw'n iau na ti dydyn nhw ddim yn deall y pethau sy'n rhaid i ti ddelio 芒 nhw. Os ydyn nhw'n h欧n, maen nhw'n chwerthin am dy ben. 4 Weithiau maen nhw'n well na ti am wneud rhai pethau yn yr ysgol. 5 Does dim ots be wnei di, maen nhw'n dwyn dy CDs, dy offer ymolchi a dy ddillad.

Pethau da yngl欧n 芒 chael brawd neu chwaer 1 Mae cael brawd neu chwaer fawr yn gallu bod yn wych os wyt ti angen cyngor - yn enwedig os wyt ti eisiau trafod rhywbeth sy'n achosi swildod!
2 Mae cael brawd a chwaer yn y t欧 yn golygu bod rhywun wastad ar gael i wylio ffilm gyda ti. 3 Bydd brawd neu chwaer yn onest, waeth beth. Felly, os wyt ti'n edrych yn afiach yn y crys-t yna, fe gei di wybod. 4 Os bydd rhywun yn tynnu dy goes, fe fydd dy frawd neu dy chwaer yno i dy gefnogi di. 5 Os wyt ti'n brin o arian cinio yn yr ysgol, fe gei di fenthyg gan dy frawd neu chwaer.

A'r peth pwysicaf? Does dim rhaid i ti wario dy holl arian ar anrhegion pen-blwydd i dy rhieni - fe fydd dy frawd neu chwaer yn talu hanner!

Mae'r brodyr Ynyr ag Eurig Roberts yn chware yn y band Brigyn. Dyma farn un ohonynt:

Mosgito: Wyt ti'n ffrindiau gyda dy frawd? Ynyr: Yndw, 'da ni'n debyg iawn ac yn rhannu llawer o ddiddordebau tebyg. Mosgito: Wyt ti'n meddwl bod cael dy frawd fel ffrind da yn bwysig, a pham? Ynyr: Yndw, mae llawer o sefyllfaoedd lle gall hyn fod o fantais, yn enwedig achlysuron teuluol. Mae hi'n bwysig gallu cyd-fyw yn hapus mewn teulu.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy