![Beth sy'n gwneud ffrind da?](/staticarchive/e3bd4bc6c16ae0251835701bbf6bfba13cf7f669.jpg)
Beth sy'n gwneud ffrind da?
Mosgito fu'n holi rhai o selebs Cymru...
Branwen Gwyn sy'n cyflwyno ar Wedi 7 "I mi dyma'r pethau mwyaf pwysig am ffrind da. Dy fod ti'n gallu chwerthin - a chrio - gyda nhw. Dy fod ti'n gallu dweud dy gyfrinachau i gyd wrth y person, (dim ots faint o embaras ydyn nhw!) ac yn fwy na dim dy fod ti'n gallu ymddiried yn llwyr ynddyn nhw."
Ywain Gwynedd o'r band Frizbee "I fi, mae ffrind da yn dy sortio di allan pan nad wyt ti'n teimlo fath 芒 chdi dy hun. Mae gan fy ffrindiau gorau i'r gallu i eistedd o gwmpas a gwneud dim byd. Dwi ddim yn licio bod yn rhy brysur, felly mae'r ffaith eu bod nhw'n hoffi gwneud yr un peth 芒 fi yn bwysig iawn i mi!"
Fflur Dafydd o'r band Fflur Dafydd a'r Barf "Y peth pwysicaf am gael ffrindiau agos, go iawn, sy'n dy nabod di tu-chwith-allan, yw na allu di guddio dim oddi wrthyn nhw. Ac mae hynny'n beth braf, am fod rhaid i ti weithio trwy bethe'n syth pan fydd rhywbeth o'i le, yn lle stiwio neu esgus dy fod ti'n iawn.
"Ond hefyd, does neb yn gwneud i ti deimlo'n hapusach na ffrind da, gan fod yr ieithwedd rhwng ffrindiau gore yn gwbl wahanol. Mae'n bosib cynnal sgwrs mewn iaith fach eich hunain weithie sy'n seiliedig ar hen j么cs ac atgofion cwbl unigryw. Pethe felly sy'n gwneud y berthynas yn un arbennig."
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.