大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
大象传媒 CymruMosgito, Pethau personol

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Anhwylderau bwyta

Anhwylderau bwyta

Beth yw anhwylder bwyta? Os oes 'da ti broblem 芒 bwyd a dy bwysau, mae'n bosib bo' ti'n diodde o anhwylder bwyta (eating disorder).

Falle bo' ti'n meddwl bo' ti'n rhy dew ac yn dechrau bwyta llai. Falle bo' ti'n meddwl y bydd bywyd yn well os byddi di'n colli pwysau. Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n teimlo fel hyn rywbryd neu'i gilydd.

Ond, gall pethau fynd dros ben llestri. Mae cyfri'r calor茂au a gwneud ymarfer corff yn troi'n obsesiwn. Mae rhoi pwys neu ddau ymlaen yn gallu difetha dy ddiwrnod. Mae'r holl gyfri a phwyso yn dechrau rheoli dy fywyd ac effeithio ar dy iechyd a dy hapusrwydd. A phan fydd hynny'n digwydd, ma' 'da ti anhwylder bwyta.

Beth yw symptomau anhwylderau bwyta?

Y ddau anhwylder bwyta mwyaf cyffredin yw:

  • Anorecsia nerfosa - Os wyt ti'n diodde o anorecsia, rwyt ti'n llwgu dy hun er mwyn cyrraedd pwysau sy'n beryglus o isel. Rwyt ti'n gallu colli dy wallt. Bydd dy esgyrn yn teneuo, a bydd dy ewinedd yn torri'n rhwydd. Falle na fyddi di'n dod arno bob mis. Mae'n bosib y bydd blew bach tywyll yn tyfu ar dy freichiau. Rwyt ti'n edrych yn ofnadwy ac yn waeth na hynny, rwyt ti'n teimlo'n ofnadwy.
  • Bwlimia nerfosa - Os wyt ti'n diodde o fwlimia, rwyt ti'n stwffio dy hun gan fwyta llawer mewn amser byr. Ond wedyn, rwyt ti'n chwydu. Neu'n cymryd lacsatifs falle (tabledi sy'n gwneud i ti fynd i'r t欧 bach yn amlach). Bydd dy ddannedd yn dechrau pydru, a byddi di'n teimlo'n ddiflas.

Mae rhai pobol sy'n diodde o anhwylder bwyta yn mynd mor s芒l nes bo' nhw'n gorfod mynd i'r ysbyty. Mae rhai yn ffeindio mas na fyddan nhw'n gallu cael plant pan fyddan nhw'n h欧n. Weithiau, mae rhai yn marw.

Felly, paid anwybyddu unrhyw bryderon sydd 'da ti amdanot ti dy hun neu dy ffrindie.

Pam fod pobol yn diodde o anhwylderau bwyta? Mae rhai pobol yn fwy tebygol o ddiodde o anhwylderau bwyta nag eraill. Mae eraill yn datblygu agwedd wael at fwyd wrth iddyn nhw dyfu i fyny.

"Fi'n gweithio'n galed iawn yn yr ysgol. Mae'n rhaid i bopeth fod yn berffaith. Fi ddim yn mynd i fod yn dew - dim ffiars."

Mae stres neu brofiadau gwael yn gallu meddwl y byddwn ni'n fwy tebygol o ddiodde o anhwylder bwyta.

"Tasen i'n denau, bydde 'da fi fwy o ffrindie yn yr ysgol."

Os oes gan rywun yn y teulu agwedd od at fwyd, mae'n fwy tebygol y bydd 'da ni agwedd od at fwyd hefyd.

"Odd gan mam obsesiwn 芒'i j卯ns maint deg. Odd rhaid i fi wneud rhywbeth pan welais i bod fy mhen-么l i yn fwy nag un mam."

Yn aml, mae anhwylderau bwyta'n dechrau pan fyddwn ni'n mynd ar ddeiet. Ar 么l colli ychydig o bwysau rydyn ni'n dechrau teimlo'n well amdanon ni'n hunain. Rydyn ni'n teimlo in control ac rydyn ni'n edrych yn well, felly rydyn ni'n dal ati. Weithiau, mae'n gallu bod yn anodd stopio er bo' ni'n gwbod bo' ni'n gwneud niwed i'n hunain.

Os wyt ti'n credu bod anhwylder bwyta 'da ti...

Tria ateb y cwestiynau hyn.

A ydw i:

  • Yn teimlo'n euog pan fydda i'n bwyta rhai mathau o fwyd? Yn bwyta bwyd ar y slei neu'n bwyta llawer o fwyd hyd yn oed os nad oes ishe bwyd arna' i?
  • Yn osgoi bwyta o flaen pobol eraill?
  • Yn osgoi mynd i barti rhag ofn y bydd llawer o grisps a chacennau 'na?
  • Yn pwyso'n hunan yn aml ac yn teimlo'n dew er nad ydw i'n dew?
  • Yn cyfri'r calor茂au a/neu bob gram o fraster drwy'r amser ac yn poeni am beth fyddai'n ei fwyta nesaf?
  • Yn trio peidio bwyta am ychydig ac yna'n bwyta gormod ac yn teimlo'n wael?
  • Yn gorfodi'n hun i chwydu, yn cymryd lacsatifs neu'n gwneud gormod o ymarfer corff?

Os wyt ti wedi ateb 'Ydw' i unrhyw rai o'r cwestiynau hyn - yn enwedig y cwestiwn diwetha, falle bod problem 'da ti.

Siarada 'da rhywun rwyt ti'n ei drystio, a cher i weld y meddyg. Paid gwastraffu amser. Gorau po gyntaf y gei di help. Paid treulio diwrnod arall yn teimlo'n ddiflas am fwyd.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy