![Swildod](/staticarchive/e413bb29d20fc2dd9d1ec0019cca7c2ecee182d0.jpg)
Ydw i'n swil? Tria ateb y cwestiynau hyn:
Ydw i'n teimlo'n swil:
- Pan fydda i yng nghwmni pobol dwi ddim yn eu nabod yn dda iawn?
- Pan fydda i mewn parti?
- Pan fydda i'n cwrdd 芒 phobol newydd am y tro cyntaf?
- Pan fydda i'n siarad 芒 phobol ddierth?
- Pan fydda i'n siarad 芒 phobol bwysig fel athrawon neu blismyn?
Ydw i'n cael trafferth:
- Edrych i lygaid pobol?
- Gofyn i bobol am wybodaeth?
- Meddwl am bethau i'w dweud pan fydda i mewn gr诺p?
- Bod yn naturiol gyda phobol newydd?
- Rhoi fy marn neu gymryd y blaen?
A wnes di ateb 'Ydw' i dros hanner y cwestiynau?
Do? Wel, falle bo' ti'n swil.
Mae swildod yn beth cyffredin iawn. Byddai tua 40% ohonon ni'n dweud ein bod ni'n swil. Dyw swildod ddim yn broblem oni bai bod e'n stopio ni rhag gwneud y pethau rydyn ni ishe gwneud. Fel cael pobol eraill i sylwi arnon ni neu gyrraedd ein potensial.
Pam fod pobol yn swil? Weithiau, rydyn ni'n cael ein geni'n swil. Falle bod ein rhieni ni'n swil. Hefyd, mae pobol yn pregethu arnon ni o hyd i beidio tynnu sylw aton ni'n hunain neu siarad 芒 phobol ddierth.
Ar y llaw arall, falle bo' ni'n swil achos bo' ni wedi cael profiad sy'n gwneud i ni deimlo'n betrus. Cael ein gwrthod gan rywun, cael rhywun yn gwneud sbort am ein pen, cael ein hanwybyddu gan rywun. Mae hyn yn si诺r o roi ergyd i'n hyder. Felly, ni'n dechrau osgoi'r peth oedd wedi gwneud i ni deimlo'n wael - sef pobol eraill. Mae hyn yn dod yn ail natur i ni gydag amser.
Beth sydd o'i le ar fod yn swil? Yn aml, mae pobol swil yn ffyddlon, yn meddwl am bobol eraill ac yn gydwybodol. Felly, ma' nhw'n gwneud ffrindie gr锚t. A byddai'r byd 'ma'n lle diflas pe bai pawb yn swnllyd ac yn llawn o'u hunain. Felly, does dim byd o'i le ar fod yn swil - os ydyn ni'n hapus.
Ond mae pobol swil yn gallu teimlo'n unig. Neu mae pobol eraill yn eu hanwybyddu. Does neb yn gofyn iddyn nhw fynd mas, does neb yn rhoi codiad cyflog iddyn nhw, dyn nhw ddim yn cael lle yn y brifysgol.
Sut alla i ddod yn fwy hyderus? Dyw e' ddim yn anodd. Os ydyn ni ishe dod mlaen yn dda 芒 phobol, mae'n rhaid i ni ymarfer - dyna'i gyd.
Paid bod yn rhy galed ar dy hun. Fydde ti ddim yn disgwyl pasio dy arholiadau TGAU heb weithio'n galed. Ac mae hyder yn rhywbeth mae'n rhaid i ti weithio arno hefyd. Does neb yn dod yn berson poblogaidd, llawn hyder dros nos.
Ara deg mae'i gwneud hi. Y tro nesaf byddi di gyda gr诺p o ffrindiau neu berthnasau, gwna'n si诺r bo' ti'n dweud rhywbeth. Yna, tria ofyn cwestiwn ar ddiwedd gwers neu godi dy law yn y dosbarth hyd yn oed. Os wyt ti'n teimlo'n hapus yn gwneud y pethau hyn, y cam nesa yw trio siarad 芒 phobol ddierth. Tria ofyn cwestiynau i bobol amdanyn nhw eu hunain fel bo' nhw'n dechrau siarad. Mae hyn yn meddwl bod llai o bwysau arnot ti wedyn.
Rwyt ti'n gallu dod dros dy swildod. Paid poeni os wyt ti'n cymryd cam bach n么l. Jyst rho gynnig arall arni. Does neb yn llwyddo trwy'r amser.
Y peth pwysig yw teimlo'n hapus 芒 ti dy hun. Os wyt ti'n teimlo'n dda am dy hun does dim ots am unrhyw un arall. Felly, gwna restr o'r holl bethau ti'n gallu eu gwneud yn dda. Sdim ots pa mor ddwl. Ar dop fy rhestr i, dwi wedi rhoi "gwbod yr holl ganeuon oedd yn Rhif Un yn 2001".
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.