大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yng ngwres y dydd. . . Diwrnod mewn byd arall
Kathryn Rowlands
yn ymweld ag
Albania


Dydd Gwener, Gorffennaf 29, 2000

I ble'r ewch chi am wyliau eleni? Ydych chi wedi ystyried Albania? Falle ddim - ond yno y bum i am y diwrnod gwpwl o wythnosau nôl. Gadewch imi esbonio

Yng ngwres y dydd Roeddwn ar fy ngwyliau yn Kassiopi yng Nghorfu gyda dwy ffrind, Ceris a Mel. O'r cychwyn, daeth yn amlwg nad gwyliau "gorwedd-yn-yr-haul" fyddai hwn. Mae na "heatwave" allan yn nwyrain Ewrop ar hyn o bryd ac am o leia bedwar diwrnod tra 'roeddwn yno, 'roedd y tymheredd yn y 40au.

Dodir "phew" yn "Corfu"!

Fe benderfynon fod yn ofalus: yfed galwyni o ddwr, gwisgo capiau "baseball" a chadw allan or haul gymaint â phosib - ar wahân i fynd ar ambell wibdaith.

Iawn - cymharu'r prisiau bwcior trips - un i'r dref, Corfu Town, un i ffoi rhag y gwres ar gwch o amgylch yr arfordir ac un arall oedd yn ein gorfodi i godi am chwech y bore, a mynd i wlad arall - Albania.

Wyddwn i ddim beth i'w ddisgwl. Does dim llawer ers i Albania - y wlad dlotaf yn Ewrop - agor ei drysau i estroniaid. Am 45 mlynedd bu'n gaedig i weddill y byd dan reolaeth yr unben Stalinaidd, Enver Hoxha.

Lladdodd y gwr hwn, a fu farw yn 1985, y rhan fwyaf o'i wrthwynebwyr gwleidyddol ac anfonodd 400,00 o'r wlad oherwydd eu daliadau gwleidyddol.

Ym 1991 - yr oedd Albania yn un or gwledydd olaf yn Nwyrain Ewrop i gael gwared â'r drefn Gomiwnyddol.

Eto, yn 1997, gwrthryfelodd rhannau mawr o Albania yn erbyn y blaid lywodraethol ddemocrataidd..

Yn ystod misoedd o drais lladdwyd 2,000 o bobl a dihangodd miloedd dros y môr ir Eidal.

Dim rhyfedd mai yn betrus ac yn bryderus y cyflwynodd y tair ohonom, y bore Sadwrn hwnnw bythefnos yn ôl, ein pasports i'r swyddogion er mwyn hwylio ar y heidroffoil o Dref Corfu i borthladd Saranda yn Ne Albania.

Mewn byd arall

Er nad yw ond cwpwl filltiroedd o wlad Groeg - llai na hanner awr o deithio - buan y gwelsom ein bod mewn byd arall.

Roedd haul deg y bore - neu naw eu hamser nhw - yn grasboeth wrth inni deithio ar hen fws Almaenaidd.



Spiro yn yr amffetheatrEin "guide" - mewn capan baseball parhaus - a'n croesawodd i'r wlad oedd cymeriad hoffus o'r enw Spiro.

Wrth inni gael ein gyrru i westy am luniaeth ac i newid arian sylweddolais fod pobl yn edrych yn syn ar y bws yn teithio'r strydoedd llychlyd, heibio'r fflatiau tlawd. Doedd fawr o siopau - dim ond ambell un yn gwerthu llysiau.

'Roedd y gwesty yn lân ac fe brynon ni ddwr neu goffi yr un gan osgoi'r iâ - rhag ofn! Byddem yn dychwelyd yno am fwyd yn hwyrach yn y p'nawn.

Doedd dim rhaid inni newid arian gan fod y rhan fwyaf o lefydd yn y dre yn fodlon cymryd drachma gwlad Groeg.

"Leks" yw arian Albania ac maen amhosib cael newid y rhain yn ôl i unrhyw arian arall y tu allan i'r wlad. Mae'r rhan fwyaf o lefydd yn y dre yn cymryd drachma ta beth.

Wrth yrru heibior adeiladau tlawd, a'r tomennydd o rwbel yn y strydoedd gwelodd Mel fuwch yn pori yn un stryd! Ofer fu ein chwilio am siopau, yn yr holl lwch a darnau o goncrit.

Ychwanegwyd y stamp pwysig at ein pasport. Eistedd nôl yn ein seddau ar yr heidroffoil.

Roedd cyrraedd nôl yn Corfu yn sioc - ceir ym mhobman, swn a phrysurdeb a siopau a chyfoeth ym mhobman.

O Kassiopi gallem weld Saranda'n glir ar draws yr harbwr - yr haul yn machlud a'i adeiladau'n goch o flaen y mynyddoedd porffor.
Cwpwl o filltiroedd i ffwrdd - mewn byd arall. Pan eglurais wrth Spiro nad wyf yn bwyta cig mynnodd fy arwain i'r gegin i gwrdd a'r chef!

Clywais ddefnyddior gair "Inglés" ond nid dyma'r amser i esbonio hanes Cymru! Ta beth, cytunodd y chef ei fod ef yn ddigon hapus i goginio pupur ac aubergine a llysiau tebyg imi.

Ble mae Spiro?

Iawn - roeddem yn barod nawr i ddychwelyd at y bws - ond ble mae Spiro?
A, dyma fe - ond ei fod bron ag anghofio ei gap!

Gydag ef yr oedd ei ferch, Ana, sy'n dod gyda ni. Myfyrwraig yw hi yn dysgu sut mae gwneud swydd debyg i un ei thad. Felly, dyma ni'n cychwyn ar y daith fer i Butrint i weld yr adfeilion Rhufeinig yno.

Wrth inni gychwyn ar y ffordd o'r dref mae Sarandan edrych fel rhywle ar arfordir Amalfi yn yr Eidal. Trôdd Spiro rownd, penlinio yn simsan ar ei sedd a dechrau sôn am hanes a diwylliant Albania mewn Saesneg da.

Ar y ffordd dyllog yr oedd hi fel teithio ar gefn camel wrth ir gyrrwr wneud ei orau i osgoir rhychau dwfwn.

Bob hyn a hyn byddem yn gorfod symud i'r naill ochr er mwyn osgoi car yn dod or cyfeiriad arall.

Mercedes Benz
yw naw allan o bob deg o'r ceir hyn - rhai hen, ail-law, or Almaen.

Trwy bentrefi tlawd

Wedi gadael y môr ar un ochor ac wedyn llyn mawr prydferth aethom drwy bentrefi tlawd lle mae menywod yn golchi dillad mewn afon.

Bob hyn a hyn roedd byncars crwn yn atgof o amser mwy argyfyngus ac olion ffatri a ddinistriwyd yn llwyr yn ystod y rhyfela.

Yn Butrint ymgasglwn dan y coed ger y llyn tra bo Spiro yn dweud hanes yr hen safle. Hyd yn oed yn y cysgod mae gwres yr haul yn llethol ond mae'r lle werth ei weld, gydag amphitheatre yn dyst i gywreinrwydd crefft adeiladu'r Rhufeiniaid.

Ond yr hyn a wnaeth y diwrnod yn fythgofiadwy oedd dull Spiro o'n galw draw bob hyn a hyn i sefyll mewn hanner cylch er mwyn iddo ddweud yr hanes gan ychwanegu, "Leidees and Gentelmen, weeth yor permeesion, may I tell you a leetle anecdot?"

Roedd yr "anecdotes" wastod am yr hen oruchwyliaeth Gomwinyddol - jôcs am Khruschev a'r sefydliad. Doedden nhw ddim yn ddoniol iawn ond roedd ei ffordd o ddweud y jôcs yn unigryw!

Diwedd yr ymweliad a Butrint oedd dringo lan i gopa'r castell yn y gwres llethol. Ond yr oedd yr olygfa werth yr ymdrech gyda baner y wlad ai heryr deuben, du, wedi ei fframio yn erbyn muriaur castell a'r afon lydan yn y gwastatir islaw.

Amser i gael potel o ddwr oer mewn café bach gerllaw a gwylio cwpwl o geir yn croesi'r afon ar fferi seml cyn dychwelyd i Saranda lawr heibio'r coed olewydd a'r ffordd llawn rhychau.

Nôl am bryd o fwyd blasus iawn (My compliments to the chef!) Peis, olewydd, tomatos, ciwcymerau, caws a sglodion a digon ohono - i gyfeiliant offerynwyr traddodiadol!

Pa mor saff i dair Cymraes?

Gan fod cwpwl o oriau cyn dal yr heidroffoil 'nôl i Corfu manteisiodd rhai ohonom ar y cyfle i weld Saranda gyda Spiro yn cynnig ein tywys o gwmpas y lle.

Doedd y lle ddim yn edrych yn ofnadwy o saff i dair Cymraes ddiniwed! Ond co ni'n trampo ar hyd y "prom" a'r haul erbyn hyn bron a bod yn annioddefol.

Ni a merch Spiro - roedd e wedi diflannu eto.

Ar adeilad crand, gwyn, - amgueddfa gelf - mae arwydd yn dweud ei fod wedi ei gau i'w ail-adeiladu. Cerdded mlaen - plant bach yn rhedeg wrth ein hochrau yn ceisio gwerthu cadachau poced inni.

Ond ychydig o bobl oedd mas yn y gwres a'r rheini yn edrych yn syn ar y pymtheg ohonom yn troedior dref.

Wedi troi cornel, fe stopiodd y ferch a phwyntio at adeilad cyfagos gan ddweud, "Thees ees the insurance building".

Um - diddorol.

Nesaf, swyddfa'r post. "Eet ees a new system. The door is open. Would you like to go in?"

Oddi mewn, mae'r lle yn wâg. Dim pobl, dim posteri - dim. Wn i ddim os oedd y lle wedi agor yn swyddogol ynteu a yw bob amser felna ond roedd e'n brofiad od.

Dangosodd inni wedyn y llyfrgell a losgwyd yn ystod riots 97.

Nesaf, diflannodd y ferch gydag un o'r menywod i chwilio am sigarets. O nunlle, daeth Spiro. "Here is the library that was accidentally burned down!" meddai.

Wrth inni gerdded heibio gwesty, mae Spiro yn gofyn i'r perchennog sy'n golchir stryd tu fas, a gawn ni weld ystafell oddi mewn.

Smoi'n siwr pwy a synnwyd fwyaf, ni ta fe ond ar ôl clywed y geiriau hudol, "air conditioning" dymar rhan fwyaf o ohonom yn dringo grisiau wrth ochor y gwesty a chyrraedd lle tebyg iawn i fflat.

Cytunwn â Spiro fod y lle yn lân ac yn fodern! Ond mae Spiro mor falch o'r newidiadau - mor frwdfrydig.

Agor y bar

Nesaf, maen perswadio menyw i agor lan ei bar inni gael gweld y rhyfeddod newydd hwnnw hefyd - a chael siawns i eistedd lawr.

Erbyn hyn byddwn i wedi gwerthu fy holl deulu, heb sôn am Mamgu, am ddiod oer. Roedd y bar yn lân, yn llachar, ond yn cool ar fenyw fach yn rhedeg nôl a blaen yn cymryd ein harchebion.

Pan ofynnais a allwn dalu da drachmas mae Spiro yno fel ergyd - "I can change some leks for you, better than bank rate"!

Roeddwn yn rhy sychedig i ddadlau! Newidiais ddigon am rownd neu ddwy o ddwr!

Wrth inni adael diolchodd y fenyw fach gan ofyn o ble roeddem ni'n dod, o'n clywed ni'n siarad Cymraeg. "Wales", fe wedais, "Near England." "Ah, Wales," atebodd. Ond dwi ddim yn siwr os oedd hi 'di clywed am ein gwlad.

Wrth inni gerdded nôl i'r gwesty wrth ein hunan roedd y sgwâr yn wâg onibai am ambell i ddyn ar gornel stryd yn ein cyfarch ar geiriau, "Change leks?" gan ddangos bwndel o arian papur.

Wrth inni wrthod yr ail ddyn, fe wedodd, "Ah - Spiro change," gan wenu.

Mae dwy fenyw yn brwsior stryd ger y sgwâr, gyda brwsys bach syml wedi eu gneud o frwyn..

Nôl ir gwesty, heibio'r môr ar plant â hancesi, un yn gweiddi "Meeses Jones"!

Eistedd yn y cysgod yn yfed Coke neu ddwr eto gan aros am y bws i'n cario nôl ir porthladd.
Llwch, buwch a darnau o goncrit

Wrth yrru heibio'r adeiladau tlawd, a'r tomennydd o rwbel yn y strydoedd gwelodd Mel fuwch yn pori yn un stryd! Ofer fu ein chwilio am siopau, yn yr holl lwch a darnau o goncrit.

Ychwanegwyd y stamp pwysig at ein pasport. Eistedd nôl yn ein seddau ar yr heidroffoil.

Roedd cyrraedd nôl yn Corfu yn sioc - ceir ym mhobman, swn a phrysurdeb a siopau a chyfoeth ym mhobman.

O Kassiopi gallem weld Sarandan glir ar draws yr harbwr - yr haul yn machlud a'i adeiladaun goch o flaen y mynyddoedd porffor.
Cwpwl o filltiroedd i ffwrdd - mewn byd arall.




ewrop

Albania
Diwrnod mewn byd arall

Diwrnod mewn byd arall




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy