|
|
Croeso'n ôl i Awstria
Gwydion ap Gareth yn siarad gyda myfyriwr a ddychwelodd i Awstria Dydd Gwener, Mawrth 31, 2000
|
Pan ddychwelodd Thomas Hutter i'w famwlad, Awstria, ym mis Chwefror, ar ôl treulio chwe mis yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, roedd ei wlad wedi trawsnewid, gyda ffasgwyr yn y llywodraeth a phrotestwyr yn llenwir strydoedd. Teithiodd Gwydion ap Gareth i Vienna i glywed ei stori. Y tu ôl y sbectols crwn, mae llygaid gleision Thomas Hutter yn dangos emosiwn. Mae pobl o'r ardaloedd Almaenig yn cael eu disgrifio fel pobl oer, fel peiriannau. Ond mae''r stereoteip yn gamarweiniol. Mae Thomas, sy'n fyfyriwr 24 oed, yn ymuno'n rheolaidd gyda miloedd o Awstriaid eraill i brotestio yn erbyn Jorg Haidar, y gwleidydd asgell dde eithafol. Chwarter miliwn o bobol Yn ddiweddar, ymgasglodd Thomas gyda chwarter miliwn o bobol yn yr Heldenplatz yng nghanol Vienna, yn yr union fan lle safodd chwarter miliwn o bobl Awstria i groesawu Adolf Hitler. Maer cysylltiad yn un y mae Thomas yn ei werthfawrogi. Maer adain dde eithafol yn Awstria wedi ail-ddeffro ar ôl dros drigain mlynedd ac y mae cenhedlaeth Thomas yn ceisio atal ail-adrodd hanes. Yn ddiweddar iawn y mae Haidar wedi gorfod ymddiswyddo oherwydd pwysau y gymuned ryngwladol ac o du mewn i Awstriai hun. Ym marn Thomas chwaraeodd y brotest anferth yn yr Heldenplatz ran bwysig yn ymddiswyddiad Haidar - ond y mae yntau'n credu bod agwedd y pwerau rhyngwladol ynglyn ag Awstria wedi bod yn wirion. "Roeddwn i'n deall yr ymateb. Roeddwn i'n ymwybodol o agwedd y wasg yn ystod fy amser yng Nghymru, a oedd yn portreadu Haidar fel Hitler. Ond roeddwn i'n gwybod mai anwiredd oedd hyn. Roeddwn i'n gwybod nad oedd Haidar ddim yn y Llywodraeth, ac Awstria ddim yn ffasgaidd. "Dydy ymddiswyddiad Haidar ddim yn newid pethau gymaint â hynny, ddim yn Awstria beth bynnag." Camddealltwriaeth ac anwiredd Mae Thomas yn teimlo fod camddealltwriaeth ac anwiredd yn ffurfio agweddau pobl tu allan i Awstria. Crêd fod y rhesymau am ddyrchafiad Haidar ai blaid yn llawer mwy cymhleth. Crêd fod cychwyn yr helynt iw weld ym 1945 ar ôl i Awstria ddatgysylltu âr Alman. Er mwyn sicrhau y byddain amhosib i un dyn, neu blaid, oresgyn y genedl yn y dyfodol, dewisodd Awstria y system etholiadol gyfrannol i rannu pwer rhwng y pleidiau gwleidyddol. Ond o ganlyniad i'r consensws, a barhaodd am yr hanner canrif nesaf, daeth etholiadau yn bethau di-fater gydar sefydliad gwleidyddol yn rheoli pob agwedd o fywyd Awstria. Roedd y penderfyniadau yn cael eu gwneud ymhell o olwg a dylanwad y cyhoedd. Newidiodd pethau ym 1986, pan ddaeth gwr ifanc, carismatig o'r enw Jorg Haidar yn arweinydd y Blaid Rhyddid, trydedd blaid Awstria. O dan ei arweinyddiaeth gyfrwys ymosododd y Blaid Rhyddid ar y consensws blinedig. Ddim yn fy nychryn Maer effaith i'w weld heddiw. Ymhlith y protestiadau, mae cwestiynau pwysig yn cael eu gofyn; cwestiynau ynglyn â dyfodol Awstria, ei sefydliadau, a'i lle yn yr Ail Ryfel Byd. Mae Thomas, fel nifer o bobl ifanc Awstria, yn croesawu hyn: "Dydy'r anghydfod sy'n digwydd ar hyn o bryd ddim yn fy nychryn i. Maen heddychlon, ac yn ddemocrataidd. Flwyddyn yn ôl, ni fyddair fath brotestio wedi digwydd. Am y tro cyntaf ers i mi gofio, mae gennym ni ddemocratiaeth uniongyrchol, a dwi'n hoffi hyn." Yr hyn nad yw Thomas yn ei hoffi ydy ymateb gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd. "Mae ymateb gwledydd fel Ffrainc mor rhagrithiol gyda Chirac, Arlywydd Ffrainc, wedi dweud pethau câs am Awstria, ein bod nin ffasgwyr ac yn hiliol ac yn y blaen. A rwan dydy plant ysgol o Ffrainc ddim yn cael dod i Awstria. Ond mae gan Ffrainc hefyd broblemau efoi hadain dde a does neb yn sôn am eu boicotio nhw. Y mae Gwydion ap Gareth yn fyfyriwr sy'n astudio newyddiaduraeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor
|
|