大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dylan Llewellyn â rhai o blant Orphanage#1 yn Baku Ar dân yn Azerbaijan
Gary Pritchard yn teithio i Baku er mwyn gwylio tîm pêl-droed Cymru ac yn ymweld â chartref i blant amddifad gyda chriw o gefnogwyr Cymru.

Roedd ymosod chwim Azerbaijan yn ormod i'r Cymry, roedd goliau di-ri yn hedfan heibio golwr Cymru a roedd yr Azerbaijanwyr yn dathlu fel petai nhw wedi ennill Cwpan y Byd.

Efallai fod y ffaith fod gan Azerbaijan dros 25 o chwaraewyr ar y maes i gymharu â phump o Gymry rhywbeth i wneud efo'r perfformiad.

Rwy'n credu y dylwn egluro ... roedd criw o gefnogwyr Cymru wedi ymweld â chartref i blant amddifad yn Baku i ddosbarthu teganau, crysau a pheli pêl-droed ac fel diolch aeth y plant ati i drechu'r Cymry mewn gêm.

Roedd y syniad o ymweld â chartrefi plant wedi codi ar y daith i Helsinki yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae dros 20,000 o blant Azerbaijan yn amddifad nifer ohonynt oherwydd y rhyfel ddiweddar rhwng Azerbaijan ac Armenia, a nifer fawr oherwydd tlodi.

Wedi'r sgwrs yn Helsinki aeth dau o gefnogwyr pybyr Cymru, sef Dylan Llewelyn o Bwllheli a Neil Dymock o Lanelli, ati'n ddygn i gasglu anrhegion a chodi arian.

Cafwyd crysau pêl-droed, crysau-T, peli pêl-droed a daeth nifer fawr o'r cefnogwyr â theganau meddal i Baku i roi i'r plant.

Un o blant cartref Orphanage#1Mae'r plant yn 'Orphanage 16' ac 'Orphanage 1' yn cymryd rhan mewn prosiect Therapi Chwaraeon, felly roedd y crysau a pheli pêl-droed yn werthfawr iawn ac os yw sgiliau'r plant yn nodweddiadol o weddill blant Azerbaijan, bydd y wlad yn dathlu yng Nghwpan y Byd 2012!

Yn 'Orphanage 3' cawsom sioe gerdd gan y plant i'n croesawu i'w cartref ac i ddiolch am yr holl grysau T a theganau meddal, a roeddem yn falch iawn o allu cyfrannu at brynu gwisgoedd traddodiadol i barti dawns y merched.

Roedd yn brofiad diymhongar iawn i ymweld â'r cartrefi ac i gyfarfod y plant, yn enwedig o feddwl pa mor freintiedig ydym ni.

Roeddem ni wedi gwario mwy na chyflog blynyddol person o Azerbaijan i deithio i'r wlad i wylio gêm o bêl-droed.

Mewn 'Noson Gymreig' llwyth o ganeuon Tom Jones a'r Manic Street Preachers yw noson Gymreig yn Baku, gyda llaw! llwyddodd y cefnogwyr i godi cannoedd o bunnoedd i elusen Lottos, elusen sydd yn gofalu am blant a phobl anabl yn y wlad.

Cafodd Dylan Llewelyn y fraint o gyfarfod Elena Taranova, pencampwraig saethu Paralympaidd o Baku, wrth ymweld â'r elusen i gyflwyno'r arian.


Y 'Maiden's Tower' yn BakuMae Baku yn ddinas anhygoel, cymysgedd llwyr o'r Dwyrain, y Gorllewin a'r hen Undeb Sofietaidd yn cyfarfod ar lannau'r Môr Caspian.

Ond, er yr holl olygfeydd hyfryd yn Baku Twr y Forwyn a Phalas y Shirvan Shah neu'r adeilad lle bu Charles de Gaulle a Stalin yn aros yn ystod yr Ail Ryfel Byd, un peth yn unig fydd yn aros yng nghof pob un wan jac o gefnogwyr Cymru - y tacsis.

Dydw i erioed wedi bod mor ofnus mewn tacsi. Mae'r gyrwyr yn gyrru efo un bawd ar y corn ac un arall ar y golau heb gymeryd unrhyw sylw o linellau gwyn ar y lôn, nac ychwaith - ac efallai'n bwysicach unrhyw gerbyd arall ar y lôn!

Does yr un gyrwr yn cymryd sylw o gyfyngiadau cyflymder nac o oleadau traffig ac mae pob taith byr neu hir yn costio $5!

Roedd un gyrrwr tacsi yn flin ofnadwy ag un o fy ffrindiau am feiddio ceisio gwisgo gwregys diogelwch a hynny mewn tacsi ag andros o grac yn y ffenest flaen a choblyn o dolc yn y drws!

Roedd y gêm ei hun yn siomedig ac roedd yr awyrgylch yn yr eisteddle yn fflat, bron bod y cefnogwyr wedi arfer ennill, ond gyda naw pwynt allan o naw hyd yma, mae cryn edrych ymlaen at Belgrade ym mis Ebrill!




ewrop

azerbaijan
Ar dân yn Azerbaijan




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy