大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Jonathan Roberts Harddwch a pheryg yn Rio
Ymweld â Rio de Janeiro a wnaeth Hywel Gwynfryn ar gyfer trydedd raglen y gyfres deledu Ar Dy Feic. Yno, mae'n cyfarfod Jonathan Roberts o'r Bala.



Wrth symud i Rio trodd Jonathan ei gefn ar ei waith yn gyfreithiwr yn Llundain ac mae bellach yn gweithio gyda phobl â phroblemau cyffuriau yn Rio.

Lliwgar a chyffrous
Trwy ei lygaid ef, cafodd Hywel gipolwg ar fwrlwm un o ddinasoedd mwyaf lliwgar a chyffrous y byd a dinas sy'n llawn gwrthgyferbyniadau enbyd.

Ymwelodd hefyd â chyfaill Jonathan, Awena Jones o Ddinbych, sy'n artist yn Rio.

Ar y traethau euraid roedd cyrff hardd ac iach yn ymlacio a mwynhau'r heulwen tra yn uwch i fyny mae tai tlodaidd y trefi shanti yn frith.

Yno, lladron a gwerthwyr cyffuriau sy'n teyrnasu.

Byd y shantiBarcud yn rhybudd
Ar gyfer mentro yno bu'n rhaid i Hywel a'r criw ffilmio wrth warchodwyr arfog, lleol, i edrych ar eu holau.

"Mi fuasen nhw yn fy ngadael i mewn, ond faswn i ddim yn gadael," meddai Jonathan gan gyfeirio at beryglon y sefyllfa. Dywedodd mai'r gwerthwyr cyffuriau sy'n rheoli fan hyn ac mae ganddyn nhw eu deddfau a'u rheolau eu hunain.

Does yna ddim trydan na dwr yn nhai'r trefi shanti a dydi'r trigolion ddim yn talu trethi.

Pan ymwelodd Hywel a'r criw gwelwyd plant yn hedfan barcud fel arwydd i'r dref shanti nesaf fod yna heddlu o gwmpas.

Mae gan Jonathan fwy nag un swydd yn y ddinas; yn gweithio mewn clinig cyffuriau gyda Jorge Jaber, mae hefyd yn athro Saesneg ac yn cynghori cyfreithwyr Brasil am gyfraith Prydain.

Dychwelodd i'r coleg i astudio cyfraith gan fod cyfraith Brasil mor wahanol i'n cyfraith ni ac angen ei hastudio am bum mlynedd.

Darganfyddodd Hywel Gwynfryn hefyd fod gan bobol Rio obsesiwn gyda'u cyrff gyda merched Copacabana, Ipanema a Leme "yn brifo o hardd" fel y dywedodd Twm Morys mewn cerdd yn dilyn ymweliad ganddo ef.

Dywedodd Hywel fod y Carioca sef trigolion Rio yn edrych ar ol eu cyrff yn ofalus iawn gan ymarfer ar y traeth bob awr o'r dydd waeth beth yw eu hoed!

Ymateb Jonathan i'r ymweliad
Meddai Jonathan:
"Ges i wythnos ddifyr dros ben yng nghwmni Hywel, Gwenan a'r criw. Roedd y tywydd yn fendigedig ac mi ges i gyfle i ddangos y gore o Rio iddyn nhw.

"I ddweud y gwir roedd yn brofiad diddorol dros ben - go brin fyddai'n cael y cyfle i gymryd 'gwyliau' - a pan fydd y cyfle gen i dwi'n tueddu i bicio draw i Gymru a Llundain i weld y teulu a ffrindiau.

"Braf iawn felly oedd cael amser i 'ail-weld' y ddinas.

"Grêt hefyd oedd cael eistedd ar y traeth am fwy nag awr heb orfod poeni am waith , rhuthro o un lle i'r llall.

"I mi, y profiad gorau oedd cael mynd i weld y favela (y shanty town) yn Vidigal - mae'n rhy beryglus i fynd yno fel arfer ac mi oedd y criw yn ffodus dros ben i gael caniatâd i ymweld a'r lle.. Yr oedd yn brofiad anhygoel.

Pobol glên
"Weithiau mi fydda i'n meddwl pam fy mod yn byw mor bell o fy nghartref a'r teulu ond wrth dreulio amser efo'r criw yn dangos y ddinas iddyn nhw mi wnes i sylweddoli pam fy mod mor hoff o Rio a'r cariocas - mor glen yw'r bobol yma , mor brydferth yw'r ddinas, a chymaint o hwyl da ni'n i gael yma.



Byd arall - y traeth"Dwi erioed wedi gweithio efo criw teledu o'r blaen, mi o'n ni'n disgwyl dipyn o stres a phobol sydd yn meddwl lot o'u hunain ac yn y blaen - ond doedd na ddim o hynny, roedd pawb yn gwneud yn dda iawn efo'i gilydd ac mi wnes i wir fwynhau sgwrsio efo Hywel . Roedd pawb yn broffesiynol dros ben, hyd yn oed yn haul chwilboeth y bore ar ôl noson reit ddifyr yn Copcabana!

"Dwi'n meddwl fod pawb wedi cael digon o hwyl, a phob un o'r criw yn dweud fod ganddyn nhw awydd dod yn ôl i dreulio gwyliau go iawn yn Rio.

"Mi fydd nas groeso cynnes iddyn nhw wrth gwrs.

"Até logo, gente! - Welai chi cyn hir."




cysylltiadau


de america

Brasil
Harddwch a pheryg yn Rio




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy