大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhian Dod o hyd i'w glan môr - a gwr - yn Siapan
Yn y bedwaredd raglen o gyfres 2003 o Ar Dy Feic mae Hywel Gwynfryn yn cyfarfod Rhian o Sir Fôn sy'n awr yn byw mewn tref sôs soy yn Siapan!

"Dwi licio glan môr, dwi 'di bod isho byw ar lan y môr ers dwi'n fach."

Ychydig a feddyliodd Rhian Yoshikawa o Fôn y bydda'r lan môr honno ben arall y byd, yn Japan ac y byddai ei phlant ei hun yn cael eu magu ar lan y môr, ond yn siarad Siapanaeg.

Choshi yn Siapan yw ei chartref bellach lle mae'r haul yn codi gyntaf yn y byd. Gwlad sy'n wrthgyferbyniad o dechnoleg newydd, arloesol a thraddodiadau diwylliant hynafol.

Lle hynod o wahanol i Sir Fôn ond lle y mae Rhian wedi ei wneud yn gartref iddi ers pymtheng mlynedd bellach.

MennaAr gyfer Ar Dy Feic ymwelodd Hywel Gwynfryn â Siapan a chael cip ar fywyd Rhian yno.

O Dalwrn ym Môn y daw Rhian Yoshikawa a'i bwriad gwreiddiol oedd treulio dim ond blwyddyn yn y wlad ond fel yr awgryma'i chyfenw, mae hi erbyn hyn wedi priodi brodor o Siapan.

Cyfarfu hi â Toru mewn noson allan ac aeth y flwyddyn o ymweliad yn bymtheng mlynedd, yn briodas, yn ddau o blant ac yn waith a gyrfa yn y wlad.

Choshi bellach yw ei chartref, porthladd pysgota rhyw ddwyawr o Tokyo ac yn enwog am ei ffatrioedd soy sauce a physgod.

Mae'n hapus iawn yn ei gwlad fabwysiedig, gyda'i phlant Cai sy'n naw oed a Menna sy'n saith.

Mae'n dysgu Saesneg i blant ac oedolion yn ogystal â chynorthwyo Toru gyda busnes y teulu, siop gwerthu llestri.



Mynd i'r seremoniCafodd Hywel groeso traddodiadol Siapaneaidd yn eu cartref, gan gamu i mewn i'r ty yn nhraed ei sanau yn ôl yr arfer.

Blasodd de gwyrdd mewn seremoni gyda theulu yng nghyfraith Rhian ac ymwelodd â theml Shinto gyda'r teulu a bu mewn seremoni arbennig y cymerodd Menna ran ynddi ar ei phen-blwydd yn saith oed.

Ac fel y plant eraill roedd wedi ei gwisgo mewn kimono ar gyfer y diwrnod arbennig hwn yn hanes y teulu.




cysylltiadau


asia

Siapan
Dod o hyd i'w glan môr - a gwr - yn Siapan




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy