大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Galar yn Rwanda Rwanda
Gwion Lewis, arbenigwr ar faterion rhyngwladol, yn trafod y datblygiadau diweddaraf yn Rwanda

"Mae'n rhaid i ni eu difa nhw, pob un ohonyn nhw, ymhob rhan o'r wlad. Ewch hyd yn oed i wersylloedd y ffoaduriaid, a lladdwch bawb welwch chi..."

Dyna sut ddaeth y newyddiadurwr Kantano Habimana â'i adroddiad radio i ben ar Fai 23, 1994.

Yr orsaf oedd Radio Television Libre des Mille Collines (RTLM), a'r gynulleidfa oedd pobl Rwanda, yn arbennig felly Hwtwiaid y wlad, oedd yn cael eu hannog i gael gwared â'r lleiafrif Twtsïaidd unwaith ac am byth.

Wedi'r lladd . . .Dros ddegawd yn ddiweddarach, amcangyfrifir i o leiaf 800,000 o Dwtsïaid a Hwtwiaid cymedrol gael eu llofruddio yn yr hil-laddiad erchyll a welodd Rwanda yn ail hanner y Naw Degau.

Eleni, gwelwyd Hollywood yn mentro nid unwaith, ond teirgwaith, i ailadrodd yr hanes. Yn ogystal â'r ffilm gafodd sylw yr Oscars, Hotel Rwanda, mae dau gynhyrchiad arall yn ein disgwyl: Shooting Dogs a Sometimes in April.

Ond ymhell o'r nosweithiau agoriadol yn y Gorllewin, mae'r gwaith anodd o geisio ailgodi Rwanda yn parhau.

Pan oedd cyfnod mwyaf cythryblus yr hil-laddiad drosodd, roedd her enfawr yn wynebu'r awdurdodau Twtsïaidd newydd: sut oedd disgwyl i wlad dlawd, rwygiedig, heb adnoddau, ddod ag oddeutu 60,000 o lofruddion o flaen eu gwell?

Llysoedd cymunedol
Yr ateb yw llysoedd gacaca - llysoedd cymunedol, traddodiadol, sydd yn dechrau ar eu gwaith y mis hwn ac sy'n bwriadu gwrando ar ddegau ar filoedd o achosion cyn gynted â phosib.

Gacaca yw'r enw ar y lawnt fechan yng nghanol bob pentref lle y daw'r hynafgwyr lleol at ei gilydd i geisio dod ag unrhyw ffrae rhwng y trigolion i ben.

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu rhai ardaloedd yn Rwanda yn arbrofi â'r broses gacaca er mwyn gweld a yw'n ffordd addas o sicrhau cyfiawnder i'r rhai a gollodd deulu yn ystod yr hil-laddiad.

Casglwyd fod yr arbrawf yn un llwyddiannus ar y cyfan, ac erbyn hyn sefydlwyd oddeutu 12,000 o lysoedd gacaca ledled y wlad er mwyn tynnu pwysau oddi ar y gyfundrefn lysoedd gonfensiynol.

Anffurfiol
Prif fantais y llysoedd cymunedol yw eu hanffurfioldeb: gan nad ydynt yn gorfod glynu'n gaeth wrth reolau tystiolaeth, mae achosion yn llawer byrrach, ac yn aml fe ellir ymdrin â degau o ddiffynyddion gyda'i gilydd.

Llys<i>gacaca</i>Y syniad o faddeuant sydd wrth wraidd y cyfan.

Eir â'r diffynyddion i'r pentrefi yr honnir iddynt fod wedi troseddu ynddynt ac fe'u gwahoddir i ddatgan o flaen y trigolion eu bod yn edifarhau am eu gweithredoedd.

Nid oes cyfreithiwr yn dod yn agos i'r broses, ac mae disgwyl i'r diffynyddion eu cynrychioli eu hunain.

Yn hytrach na barnwr, yr hynafgwyr lleol sy'n penderfynu ar unrhyw ddedfryd ar ôl ymgynghori â'r rheiny mewn galar.

Yn wreiddiol, yr oedd llawer o fudiadau hawliau dynol yn amheus o'r broses ansoffistigedig hon ond erbyn hyn, er gwaethaf y gwendidau cyfreithiol, mae'r mwyafrif o'r farn mai dyma'r un ffordd o ymdopi â chymaint o achosion.

Llys swyddogol
Serch hynny, ni fydd y llysoedd gacaca yn gwrando ar yr achosion pwysicaf. Bydd y rhai sydd wedi eu cyhuddo o droseddau rhywiol yn parhau i ddod o flaen y llysoedd trosedd confensiynol.

Hefyd, bydd achosion y rheiny sy'n cael eu hamau o fod yn un o brif drefnwyr yr hil-laddiad yn dal i ddod gerbron Tribiwnlys Trosedd Rhyngwladol Rwanda.

Sefydlwyd y Tribiwnlys hwn dan adain y Cenhedloedd Unedig, ond yn y naw mlynedd ers ei sefydlu, ugain yn unig a gafwyd yn euog ganddo.

Mae'n cael ei feirniadu'n gyson am fod yn llys aneffeithiol.
Mae ei gostau gweinyddol bellach yn hanner biliwn o ddoleri, ac mae llywodraeth Rwanda wedi mynegi pryder nad yw tystion yn cael eu gwarchod yn ddigonol.

Ar ben hynny, dywed rhai sylwebwyr fod lleoliad y Tribiwnlys, y tu allan i Rwanda, yn golygu na all gyfrannu'n sylweddol at gymodi'r Twtsïaid a'r Hwtwiaid.

Penderfynwyd cynnal y Tribiwnlys yn nhref Arusha yn Nhansanïa am resymau diogelwch, ond mae llawer yn dadlau fod Rwanda bellach yn ddigon sefydlog, ac y dylid symud y Tribiwnlys yno i wneud yn broses yn fwy gweladwy i drigolion y wlad.

Costus
Go brin fod yna fawr o gefnogaeth i'r syniad hwnnw ymhlith y Cenhedloedd Unedig: oherwydd costau anferthol y Tribiwnlys hyd yn hyn, maen nhw'n edrych yn llygad y geiniog yn fwy nag erioed o'r blaen.

Lladdfa Eglwys NgarubuyeNid yw'n fawr o syndod, felly, fod y llysoedd gacaca, gyda'u pwyslais ar gyfiawnder sydyn a rhad, yn cael eu croesawu gan y Gorllewin.

Ar hyn o bryd, mae hi'n rhy gynnar i weld a fydd ymlacio'r pwyslais ar hawliau dynol y diffynyddion Hwtŵaidd yn cael unrhyw effaith ar yr ymdrech i'w cymodi â'r Twtsïaid.

Ond yn sicr, mae'r arwyddion cynnar yn rhai calonogol, gan orfodi llawer o gyfreithwyr hawliau dynol i ailfeddwl.

Ymhell o'r sefydliadau mawreddog lle penderfynwyd ar y cyfreithiau rhyngwladol yn y lle cyntaf, dichon fod pobl leol, weithiau, yn gwybod yn well.

Dolennau










cysylltiadau






affrica

> De Affrica
> Kenya
> Ethiopia
> Tanzania
> Sudan

Profiad newydd - enw newydd

Rwanda

Rwanda - cwestiwn ac ateb

Congo - amser deffro

Cyfaredd yr Aifft



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy