大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Saddam Hussein Saddam Hussein yn euog
Gwion Lewis yn trafod arwyddocâd cael Saddam Hussein yn euog o drefnu llofruddiaethau

  • Tachwedd 2006

    Mi ddylwn i fod yn hapusach nag ydw i.
    Mae'r teyrn a fu'n gyfrifol am gymaint o ddioddef yn Irac, Saddam Hussein, wedi ei gael yn euog o drefnu llofruddiaethau 148 o Foslemiaid Shiaidd yn nhref Dujail yn 1982.

    "Carreg filltir bwysig," meddai'r Arlywydd Bush.

    "Dyfarniad sy'n dod â'r tywyllwch i ben" meddai Prif Weinidog Irac, Nouri Maliki.

    Y gosb eithaf yn unig sy'n briodol meddai'r sylwebydd gwleidyddol Americanaidd, Jim Pinkerton, gan fod bodolaeth Saddam yn "gancr" sy'n rhwystro Irac rhag gwella.

    Dewisodd Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, William Hague, ei eiriau'n fwy gofalus, ond awgrymodd ar Sky News fore Sul nad lle Ann Clwyd, llysgennad Tony Blair yn Irac, yw gweld bai ar y penderfyniad i roi'r gosb eithaf i Saddam.

    "Penderfyniad a wnaed yn Irac, gan yr Iraciaid eu hunain," yw hwn, meddai Hague: pwy ydym ni i feirniadu hynny dros ein croissants fore Sul?

    Gwerthoedd cyffredinol?
    Mae'n hen ddadl.
    Ers i'r mudiad hawliau dynol dyfu'n rhyngwladol, un o hoff dactegau'r rhai a gyhuddir o gyfyngu ar yr hawliau hynny yw nodi nad oes gan y mudiad "fonopoli" o safbwynt diffinio beth sy'n foesol.

    Nid oes y fath beth â gwerthoedd cyffredinol yn ôl y safbwynt hwn. Yn hytrach, rhaid gadael i bob diwylliant benderfynu ei werthoedd ei hun, hyd yn oed os yw rhai ohonynt yn wrthun i "élite rhyddfrydig" y Gorllewin.

    Fersiwn llai soffistigedig o'r ddadl hon a geir yn y wasg dabloid Brydeinig.

    Gwallgofrwydd, yn ôl y papurau hyn, yw dweud fod gan ddyn mor filain â Saddam Hussein hawliau dynol.

    "Bwystfil i'w gadw mewn cawell" yw Saddam (The Sun, 28.02.05); "diafol" ar ei ffordd i uffern (The Mirror, 06.11.06).

    Mae'r awgrym yn glir: nid yw Saddam yn ddigon 'dynol' i feddu ar yr hawliau sydd gan y gweddill ohonom ni.

    Fodd bynnag, nid rhyw dosturi afresymegol dros Saddam sydd y tu ôl i'r ddadl y dylai gael ei garcharu yn hytrach na'i ddienyddio. Drwy wrthod y gosb eithaf, mae cymdeithas yn edrych y tu hwnt i'r llofrudd, ac yn mynnu fod yr union beth a ddiystyriwyd ganddo yn cael ei barchu, sef gwerth cynhenid bywyd.

    Colli cyfle
    Roedd y ddedfryd gyntaf yn achos Saddam yn gyfle i Irac droi dalen newydd. Roedd yn gyfle i ddangos fod y wlad yn troi ei chefn ar y dyddiau pan oedd bywyd yn rhywbeth bregus, ansicr, a oedd yn nwylo'r arweinyddiaeth.

    Collwyd y cyfle hwnnw, a hynny wedi achos llys sydd wedi bod yn hynod ddiffygiol mewn mwy nag un ffordd.

    Yn gyntaf, nid oedd angen i'r erlyniad brofi 'y tu hwnt i amheuaeth resymol' fod Saddam yn euog. Dyma'r safon arferol mewn achosion rhyngwladol, ond y tro hwn, yr oedd yn ddigonol i'r tribiwnlys gael ei "argyhoeddi" fod Saddam y tu ôl i'r gyflafan - prawf llawer haws i'r erlynwyr.

    Yn ail, mae dadl gref nad oedd yn bosibl i'r tribiwnlys fod yn llwyr annibynnol oherwydd yr amgylchiadau gwleidyddol.

    Roedd yr Americaniaid yn dal i feddiannu Irac pan sefydlwyd y tribiwnlys, ac felly y bu hi drwy gydol yr achos.

    Er mai barnwyr Iracaidd a welwyd ar y fainc, byddai wedi bod yn rhy beryglus i'r tribiwnlys dorri pob cysylltiad â swyddogion America: yr oedd angen grym milwrol yr Americaniaid y tu allan i'r llys i sicrhau fod yr achos yn gallu digwydd.

    I ba raddau, felly, oedd yr Americaniaid yn dylanwadu ar y broses gyfreithiol ei hun y tu ôl i'r llenni?

    Hyd yn oed os nad oeddent yn gwneud hynny mewn gwirionedd, mae'r amgylchiadau yn peri i rywun fod yn amheus, sy'n gwbl groes i'r wireb gyfreithiol fod angen i lys ymddangos yn gyfiawn, yn ogystal â gweithredu'n gyfiawn.

    Yn drydydd, ac i goroni'r cyfan, cafodd tri o gyfreithwyr Saddam eu llofruddio a bu'n rhaid penodi uwch-farnwr newydd hanner ffordd drwy'r achos.

    Byddai unrhyw un o'r diffygion hyn, o'u hystyried yn unigol, yn ddigon i danseilio'r dyfarniad yn llwyr yn ôl safonau rhyngwladol.

    O ystyried y tri gyda'i gilydd, maent yn gosod cynsail truenus ar gyfer yr Irac 'ddemocrataidd' newydd.

    Cam ymlaen?
    Ateb yr Arlywydd Bush i'r feirniadaeth gyfreithiol hon yw fod y tribiwnlys yn dal i fod yn gam mawr ymlaen o'r llysoedd a arferai fod yn llwyr atebol i Saddam yn ystod ei arweinyddiaeth.

    Nid yw hynny'n dweud llawer wrthym.
    Yn ystod cyfnod Saddam, yr oedd y llysoedd yn llygredig ac yn annheg. Efallai nad yw barnwyr y tribiwnlys yn llygredig fel y cyfryw, ond mae'r annhegwch yn parhau, a'r crogwr yn cael ei raff yn barod er gwaethaf hynny.

    Os mai dyma sy'n cael ei ystyried yn gynnydd ystyrlon yn Irac y dyddiau hyn, yr ydym, wrth geisio esgusodi'r llanast yr ydym ni ein hunain wedi greu, wedi colli pob cymesuredd.






  • cysylltiadau


  • Erthyglau eraill gan Gwion Lewis

  • dwyrain_canol

    Irac
    Dyddiadur Irac

    Saddam Hussein yn euog




    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy