大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Arwel Rocet Jones Rocet ym Mheriw - 1
Mehefin 2005
Mae Arwel Rocet Jones yn un o ddeugain o bobl a fydd yn cerdded ym Mheriw i godi arian i fudiad Mind. Bydd yn anfon cyfraniadau oddi yno i 大象传媒 Cymru'r Byd.

O Ros-y-bol i fotwm bol y byd
Ehangder bler o bethau.
Llawr y llofft a'r gwely wedi ei orchuddio â phethau.
Blerwch o bethau y byddai'n rhaid ei gyfyngu i ddau sach cefn cyn cychwyn.

Popeth sydd ei angen ar gyfer byw am chwech wythnos yn Ne America.

Paratoi
Dyna'r gyfrinach. O wneud y trefniadau'n iawn yna mae modd osgoi pob math o drafferthion yn ystod y daith.

Dechrau gyda'r pethau pwysig.
Copi o bob dogfen allweddol i'w adael adra, copi arall i ffrind, copi i'r sach bach a chopi i'r sach mawr.

Tystysgrif clwy melyn, yswiriant, tocynnau tren ac awyren - un o bob un ym mhob pentwr a'r pasbort wrth gwrs - copi ohono eisoes wedi ei sganio fel ei fod o ar y cyfrifiadur hefyd.
Y pasbort.
Y pasbort?
Y pasbort!

Cyn gynted a mod i'n sylweddoli ei fod o ar goll roeddwn i'n gwybod lle roedd o. Ond doedd hynny ddim yn gysur.

Yn fy awydd i fod yn drefnus roeddwn i wedi gadael y pasbort dan glawr y llungopiydd yn y siop.

Roedd hi'n chwech o'r gloch.
Chwech o'r gloch ar ddydd Sadwrn a hwnnw'n ddydd Sadwrn Gŵyl y Banc a finnau'n gadael dranoeth.

Os oedd siop wedi cau erioed yna hon fydda hi ...

Troi at yr heddlu.
Neb yn siarad Cymraeg yn yr orsaf. Dal fy nhir am ryw hyd. Ond roedd fy stumog yn glymau a mhen i'n chwalu.

Misoedd o baratoadau wedi eu difetha gan un cam gwag.
Allwn i byth a mynd ...

Ond doedd y gwas wrth y ddesg ddim yn siarad Cymraeg ... Roedd rhaid imi gael y pasbort a finna'n gadael yn y bore ... Ildio i'r iaith fain yn fy awydd i ddatrys fy argyfwng ... Onid ar gyfer y munudau hyn y mae rhywun yn ymgyrchu mewn cyfnodau eraill?

Holodd gwestiwn neu ddau a diflannu.
Diflannu a ngadael i ddal pen rheswm efo tair blwydd a thri chwarter o gwestiynau byrlymus a'i fam flinedig a fy nychymyg inna yn mynd a fi i bobman ond De America .

Ymhen hir a hwyr daeth yn ôl gydag addewid y byddai rheolwr y siop yn fy nghyfarfod i yno ymhen deng munud.

"Thank you," medda finna yn ddigon diffuant ... tybed allwn i fod wedi dal fy nhir yn hwy?

Codi a chodi
Doedd hi ddim ar ei gorau yn y bore.
Digon bler a di lun a'r cwsg yn dal yn ei llygaid a rhywbeth digon niwlog o'i chwmpas hi.

Un noson o gyffro ges i cyn codi a'i gadael hi gan obeithio na fydda dim rhaid imi wneud llawer a hi byth eto.

Codi a chodi a chodi a gadael Lima, prif ddinas Periw, ymhell islaw a chaniatáu i mi fy hun freuddwydio am gyrraedd Cusco ...Mynyddoedd yr Andes yn ehangder blêr oddi tanai. Mynydd-dir digon crin i'w weld o'r awyr. Ehangder fel hen fwrdd derw a'i raean yn wythiennau byw drwyddo fo i gyd.

Roedd ambell i gopa yn tywynnu fel dwrn o arian pur oedd yn toddi ac yn cronni'n llynnoedd o arian byw yma ac acw.

Codi drwy'r cymylau a'r copaon uchaf erbyn hyn yn ymddangos fel ynysoedd lledrithiol ar fôr o gymylau gwyn.

Hedfan i Afallon.
Codi drachefn a'r mynyddoedd erbyn hyn yn sgwyddo'r cymylau o'r ffordd ac yn sgyrnygu arna ni am fentro i'w teyrnas nhw.

Prifddinas yr Inca
Ac yn sydyn roedd yr awyren yn troi ar ei haden ac yn chwipio i mewn i Cusco, prifddinas yr Inca, crud gwareiddiad, botwm bol y byd yn iaith yr indiaid.

Dinas oedd hyd yn oed o'r awyr i'w gweld yn hynafol, balch a graenus.

Agorodd drws yr awyren a thaflwyd ni i fyd diarth.

Cyn inni droi roedd un o'r teithwyr ar ei gliniau ar lawr fel petae hi wedi cael ei chludo yno gan Dardis Dr Who a'i thaflu drwy'r drws i'r byd od yma. Byd sy'n bodoli ar bumed rhan yn llai o ocsigen a Sarah yn dioddef oherwydd hynny druan.

Deugain yn cerdded
Go brin mai hi fydd yr unig un ohona ni i ddioddef.

Deugain ohonon ni yn cerdded mewn gwlad ddiarth dros achos da - pum diwrnod o gerdded caled i godi nawdd i elusen iechyd meddwl Mind,.

Deugain o gerddwyr oedd ddim yn adnabod ei gilydd nac yn adnabod y mynyddoedd ychydig o oriau maith yn ôl.

Deugain o bobl yn mentro ar antur enbyd ...

Salwch meddwl
Mind yw'r elusen iechyd meddwl fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gweithio ar ran pobl sydd wedi ac yn dioddef salwch meddwl - cymaint ag un ymhob pedwar ohona ni.

Gweithreda i gefnogi cleifion yn y gymuned, i gael pobl yn ol i'r gwaith ac i gefnogi cymunedau cyfain sy'n wynebu caledi all greu poen meddwl.

Gwnaeth waith mawr gyda'r gymdeithas amaethyddol ar ôl argyfwng clwy'r traead a genau, er enghraifft.

Mae'n rhedeg llinell gymorth ac yn cynnig cefnogaeth gyfreithiol yn ogystal ag ymgyrchu i sicrhau deddfwriaeth well ar gyfer dioddefwyr.

  • Gallwch gefnogi Mind trwy yrru cyfraniadau at Arwel Jones d/o Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU





cysylltiadau




de america

Periw
Rocet ym Mheriw - 1

Rocet ym Mheriw - 5

Rocet ym Mheriw - 4

Rocet ym Mheriw - 2

Rocet ym Mheriw - 3

I Machu Picchu dros gancr




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy