大象传媒

Efa - ymuno 芒 Chonfensiwn Cymru Gyfan

Syr Emyr Jones Parry ac Efa Gruffudd Jones

Mae pennaeth yr Urdd wedi croesawu'r her o geisio perswadio ieuenctid Cymru i ymddiddori yn y drafodaeth yngl欧n 芒 dyfodol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mewn cynhadledd yng Nghanolfan y Mileniwm fore Gwener cyhoeddodd Syr Emyr Jones Parry, cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan, mai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, yw'r aelod diweddaraf i ymuno 芒 Phwyllgor Gwaith y Confensiwn.

Gyda'r Confensiwn yn cyrraedd terfyn ei daith ymgynghorol o amgylch Cymru, ac adroddiad ar ddyfodol gwleidyddol Cymru, i'w gyhoedd cyn diwedd y flwyddyn, dywedodd Syr Emyr fod y dystiolaeth hyd yn hyn yn dangos diffyg diddordeb ymhlith pobl ifainc.

"Mae pobl ifainc yn llai tebygol na phobl eraill o gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae hynny'n drueni achos mae gwleidyddiaeth yn cyffwrdd a bywydau pawb," meddai.

"I bob peth bob dydd y mae aspegt wleidyddol."

"Yr ydym wedi ceisio sicrhau ein bod yn clywed barn pobl ifainc drwy'r ysgolion a mudiadau trwy Gymru gyfan achos mae'n bwysig i ni geisio deall beth yw barn pobl ifainc am ddyfodol eu gwlad , felly rydym yn falch o groesawu Efa Gruffudd Jones i fod yn rhan o Bwyllgor Gweithredol y Confensiwn," meddai.

Syr Emyr - mynd i'r afael a'r ddadl

Dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod yn edrych ymlaen "yn fawr iawn" at gydweithio ag aelodau eraill y Confensiwn.

"Yn fy ngwaith gyda'r Urdd rwy'n cynrychioli miloedd o bobl ifanc ar draws y wlad ac rwy'n edrych ymlaen at y dasg o'u gwneud yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer sicrhau mwy o ddeddfau pweru i'r Cynulliad Cenedlaethol a pha mor bwysig yw'r penderfyniadau sydd yn cymryd lle nawr i'w dyfodol hwy," meddai.

Tynnwyd sylw at y ffaith i sesiwn holi ac ateb arbennig gael ei gynnal yn barod yn ystod yr Eisteddfod yng nghwmni dwy o ysgolion Caerdydd, Fitzalan a Plas Mawr.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.