Am y tro cyntaf eleni, nid Wal Ddringo yr Urdd yw'r unig weithgaredd awyr agored all mynychwyr Eisteddfod yr Urdd ei fwynhau, gan fod pwll canwio i'w gael yno bellach hefyd.
Mae cael y pwll ar y maes yn rhywbeth sydd wedi deillio o bartneriaeth rhwng cymdeithas Canw Cymru, awdurdod Harbwr Caerdydd, a Gwersyll yr Urdd, Glanllyn. Mae'r pwll enfawr sy'n mesur 15medr wrth 15medr, ymysg y mwyaf o'i fath yn y wlad, ac yn dal 250 tunnel o ddwr!
Yn 么l Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon Cenedlaethol Urdd Gobaith Cymru, mae prinder hyfforddwyr canwio sy'n siarad Cymraeg, ac felly mae'r bartneriaeth yn galluogi hyfforddwyr profiadol Glanllyn i "roi y blas cyntaf ar ganwio i lawer o blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg," ac aeth Arwel Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll Glanllyn, ymlaen i ategu hynny.
Gan fod yr hyfforddwyr yn mentro hyd eu boliau i mewn i'r pwll, ac yn dal gafael ar y canw tra fod y plant ynddynt, mae plant mor ifanc a 3 oed yn medru cael cyfle i fynd ar y dwr, a fod hyd at 500 o blant yn cael y profiad hynny bob diwrnod yn yr Eisteddfod.
Mwynhau'r cyfle
Un teulu ifanc fanteisiodd ar y cyfle o'r darpariaeth newydd yma oedd Sian Teagle o'r Bargoed, a'i merched Anwen ac Einir. Meddai Sian: "Mae'n beth gwych, fel mai nid cystadlu yn unig sydd yn digwydd yn yr Eisteddfod. Fyddai'r merched ddim wedi cael profiad o'r fath heb fod wedi mynd i wersylloedd Llangrannog neu Glanllyn - ffantastig!"
Er fod godrau eu trowsusau ychydig yn wlyb pan ddaethant allan o'r canw, roedd ei merched yn amlwg wedi cael amser wrth eu boddau, gyda gwen fawr o glust i glust.