大象传媒

Llywydd y dydd - Robin McBryde

Robin McBryde

Llywydd dydd Mercher yn Eisteddfod 2009 yw'r chwaraewr rygbi, Robin McBryde.

Bydd yn un o'i ddyletswyddau cyhoeddus olaf cyn cychwyn ar daith t卯m rygbi Cymru i'r Unol Daleithiau.

Mae Robin yn un o'r pethau prin hynny, chwaraewr rygbi rhyngwladol o ogledd Cymru. Fe'i ganwyd ym Mangor yn 1970 a'i fagu yn Llanfechell, Ynys M么n ond mae bellach yn byw yn y Tymbl ger Llanelli.

Chwaraeodd rygbi yn gyntaf i Glwb Rygbi Porthaethwy, cyn symud i'r Wyddgrug a th卯m Gogledd Cymru.

Er mwyn 'gwella' ei yrfa, ymunodd 芒 th卯m Abertawe ac wedyn symud i Lanelli gan chwarae ei g锚m gyntaf i'r clwb Hydref 1, 1994, yn erbyn Caerdydd.

Erbyn 1998 roedd yn gapten Llanelli pan enillwyd Cwpan Cymru a phencampwriaeth Cymru yn 1999.

Wedi ffurfio'r taleithiau yn 2003 chwaraeodd i Scarlets Llanelli.

Rhwng 1994v a 2005 chwaraeodd 250 o gemau i Lanelli a'r Scarlets!

Enillodd ei gap cenedlaethol cyntaf yn erbyn Fiji yn 1994 a chwaraeodd ei g锚m ryngwladol olaf fel eilydd yn y g锚m yn erbyn Iwerddon yn 2005 pryd enillodd Cymru y Gamp Lawn.

Wedi iddo ymddeol yn 2005 yn dilyn triniaeth i'w asgwrn cefn fe'i penodwyd yn hyfforddwyr t卯m taleithiol dan 18 y Scarlets a bellach mae'n hyfforddi blaenwyr y t卯m cenedlaethol.

Ef hefyd enillodd gystadleuaeth 'Y dyn cryfaf yng Nghymru' 1992.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.