Enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni ydi Manon Steffan Ross a Rhiannon Wyn .
Fel sy'n arferol bellach cyflwynwyd eu gwobrau o 拢1,000 yr un iddynt ar lwyfan yr Eisteddfod brynhawn heddiw.
Yn y categori cynradd y bu Manon Steffan Ross yn fuddugol gyda'i nofel, Trwy'r Tonnau.
Ei nofel Codi Bwganod sicrhaodd y wobr i Rhiannon Wyn yn yr adran uwchradd.
Mynegodd Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, lawenydd mai awduron ifanc a fu'n llwyddiannus.
"A dyw hynny ddim yn syndod, mae inc yng ngwaed y ddwy - Manon yn ferch i'r bardd a'r cyfansoddwr, Steve Eaves, a Rhiannon yn ferch i'r awdur Eirug Wyn. Mae'n afrgoeli'n wych ar gyfer dyfodol y nofel Gymraeg," meddai.
Straeon heddiw
Cysylltiadau
Dysgu
Syrcas Gerdd
Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.