大象传媒

Rhwyfo o amgylch Cymru

Arwel Phillips

31 Mai 2010

Anodd credu mai cael d诺r i yfed fyddai un o broblemau mawr rhywun sy'n mynd i dreulio 21 diwrnod mewn ceufad.

Ond dod o hyd i dd诺r digon gl芒n i'w yfed fydd un o broblemau criw o'r Urdd sydd newydd gychwyn ar daith o amgylch Cymru.

O amgylch Cymru? Dydi hynny ddim mor amhosib ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf.

Cychwynnodd Arwel Phillips, Alun Pugh a Hefin Peregrine o Harbwr Aberaeron heddiw yn rhwyfo tua'r gogledd, o amgylch Ynys M么n ac wedyn gan ddefnyddio afonydd Dyfrdwy a Hafren a chamlesi i lawr ein ffin ddwyreiniol ac allan i F么r Hafren, heibio Caerdydd ac yn 么l i Aberaeron.

Mewn cyfarfod ar y maes fore Llun dywedodd Arwel mai un anhawster y byddan nhw'n ei wynebu y cael digon o dd诺r ffres i'w yfed.

"Fe fyddwn ni'n gorfod 'dwyn' d诺r gan bobol ar hyd Cymru ond yr yda ni'n ffyddiog y llwyddwn ni yn y diwedd."

Enghraifft go iawn o dd诺r ym mhobman ond heb ddafn i'w yfed!

Mae'n daith o 650 milltir i gyd a'r gobaith yw teithio rhyw 30 i 40 milltir y dydd ac fe fydd amser i gynnal sesiynau hyfforddi mewn lleoedd yn cynnwys Y Rhyl a Chaerdydd.

Profiad blaenorol y ceufadwyr yw hwylio 78 milltir o Gymru i Iwerddon mewn 21 awr.

Cyfaddefodd Arwel mai'r cwestiwn cyntaf sy'n cael ei ofyn iddyn nhw o glywed am y fenter ddiweddaraf yw, "Ydych chi'n gall?"

"A'r ateb ydi, 'Na' - Dydy ni ddim yn gall!" meddai.


Lluniau'r Maes

Cymerwch olwg ar y luniau dydd Llun a Mawrth o faes Llanerchaeron.

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.