大象传媒

Dewi Pws - bardd plant sy'n siriys am chwerthin

Dewi Pws - Rwtsian rownd y corneli

02 Mehefin 2010

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Dewi Gray Morris - fel mae ei fam yn ei alw - ydi Bardd Plant newydd Cymru. Dewi Pws i bawb arall.

Dyn nad yw'n ystyried ei hun yn fardd ond yn "rwtsiwr rownd y gornel" a dyn nad oes ganddo blant ei hun ond sydd wrth ei fodd "weindio fyny" plant pobl eraill a'u hanfon nhw n么l wedyn at eu rhieni.

Ac yn bwysdicach na dim, dyn sy'n credu y dylai barddoni a barddoniaeth fod yn hwyl. Dim rhyfedd felly mai Spike Milligan yw un o'i arwyr.

Cyhoeddwyd mai Dewi fydd yn dilyn Twm Morys yn fardd plant am y flwyddyn nesaf oddi ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd wedi'r cystadl;u nos Fercher.

"Pryd dwi'n cael y pres?" holodd.

"Dydw i ddim yn lecio galw fy hun yn fardd," meddai'r bardd a sgrifennodd 'gerddi' fel Ti a llyfr o farddoniaeth i blant dan gant.

"Hwyl, jocan, ydi o i mi. Rhigymwr efallai," meddai.

"Casel hwyl ydi'r peth mwyaf."

Hyd yn oed cyn ei wneud yn fardd cenedlaethol roedd Dewi Pws, o Dreboeth ger Abertawe yn wreiddiol, yn sefydliad cenedlaethol yn barod ac yn beryg bywyd ymhlith ei ffrindiau fel tynnwr coes.

Mae'n actor, yn awdur, cyflwynydd teledu, a chanwr a oedd yn aelod o'r enwog Edward H Dafis. Mae'n awr yn aelod o fand lleol o Geredigion, Sesh Bach.

Ac nid pawb sy'n gwybod hyn ond cychwyn ei yrfa oedd yn athro yn Splot, Caerdydd.

"Ond doeddwn i ddim yn athro da achos roeddwn i eisiau i'r plant fwynhau eu hunain a chael hwyl. Yn y diwedd roedd y plant yn dweud wrthyf i am fyhafio fy hun," meddai.

Dwy flynedd barodd hynny nes iddo fyndc i actio gyda Chwmni Theatr Cymru.

Bu mewn sawl cyfres deledu ar S4C, gan gynnwys Pobol y Cwm, Hapus Dyrfa, Torri Gwynt a'r gyfres o raglenni taith, Byd Pws a'r gyfres i bobol ifanc Rownd a Rownd ac yn ddiweddar Golffio i S4C.

Ond fel cymeriad y mae hiwmor a hwyl yn tasgu ohono ac yn nodweddiadol o'i hiwmor gwallgof teitl ei hunangofiant oedd Theleri Th诺p. I blant sgrifennodd Dwpsi a'r Dreigie.

Hyd yn oed cyn cael ei enwi'n fardd plant dywedodd iddo fod yn gweithio gyda phlant a chael hwyl fawr yn trin geiriau.

"Cael hwyl ydi'r peth mwyaf gen i," meddai. Eto.

Mae bellach yn byw yn Nhresaith, Ceredigion, gyda'i wraig, Rhiannon a oedd gydag ef yn yr Eisteddfod yn cadw cownt arno a sicrhau ei fod lle dylai fod pan ddylai fod.

"Gofyn i Rhiannon; hi sy'n gwybod. Dydw i ddim yn gwybod lle'r ydw i," meddai.

Yn un o feirdd t卯m Crannog ar y Talwrn dywed mai ei swyddogaeth yw darparu'r limrigau a'r cerddi ysgafn gwirion.

"Mae beirdd go iawn yn sgrifennu pethau dwys a difrifiol a da ond rydw i'n rhyw rwysio rownd y corneli yn rhywle," meddai.

Am ei swydd dywedodd:

"Wy'n teimlo'n lwcus iawn i gael fy newis i fod yn Fardd Plant Cymru, ond yn becso bydd y plant yn lot fwy clyfar na fi!

"Wy'n edrych ymlaen yn fawr i weithio 'da plant dros Gymru gyfan, achos wy'n ystyried y'n hunan fel math o Peter Pan - plant sy'n fy nghadw i'n ifanc! - ac ar 么l blwyddyn yn y jobyn 'ma falle bydda i wedi tyfu n么l i fod yn ddeuddeg oed unweth 'to!" meddai.

Diolch am yr anrhydedd,
Y clod, y mawl a'r bri
'dwi ishe te a brechdan wy
Os ddwai i'ch ysgol chi!

Un peth sy'n sicr gall plant Cymru gyfrif eu hunain yn ffodus o gael cwmni am flwyddyn fardd plant a ddywedodd amdano ei hun: "Dwi ddim yn foi siriys iawn."

Ond sydd eisiau cael ei gymryd o ddifrif fel rhywun sy'n ddoniol!

Ac a ychwanegodd hefyd; "Sai'n lecio plant am fwy nag awr."

Ond bobol bach, mae honno'n mynd i fod yn awr hynod gofiadwy.

Her gyntaf y bardd plant newydd


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Pobol, pethau digwyddiadau - pob math o luniau o'r Maes

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.