大象传媒

Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu

Seremoni groesawu yng Nghaerdydd y llynedd

Eleni, bydd "g诺yl ieuenctid fwyaf Ewrop" yn fwy nag erioed gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 yn ymestyn dros ddeng niwrnod!

Eleni am y tro cyntaf bydd y gweithgareddau yn cychwyn brynhawn Gwener - Mai 27 - gyda pherfformiad o sioe gerdd Plant y Fflam yn Theatr Felin-fach.

Yna. Daw'r wythnos i ben gyda Chymanfa Ganu yng Nghapel Tabernacl Aberaeron nos Sul Mehefin 6.

Yn 么l yr arfer bydd y cystadlu o fore Llun tan nos Sadwrn.

Meddai Aled Si么n, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, wrth drafod y trefniadau estynedig:

"Yn wahanol i'r llynedd yng Nghaerdydd, mae gennym sioe gynradd yn ogystal 芒 sioe i ddisgyblion yr ysgolion uwchradd ac er mwyn sicrhau fod modd i bawb weld yr holl gyngherddau a pherfformiadau, rydym am lwyfannu'r sioe ieuenctid o'r dydd Gwener cyn i'r 'maes' agor.

"Rydym hefyd wedi sicrhau fod yr ieuenctid yn perfformio ar ddechrau'r 诺yl gan sicrhau y byddant yn rhydd i gystadlu ddiwedd yr wythnos."

Rhan bwysig arall o'r Eisteddfod yw dathliad plant ysgolion cynradd Ceredigion o fywyd T Llew Jones fu farw ddechrau 2009.

"Dros wythnos yr Eisteddfod bydd ei fywyd a'i waith yn dod yn fyw, drwy gyfrwng sioe gerdd newydd sbon a gomisiynwyd," meddai Aled Si么n.

Bydd y Cyngerdd Agoriadol yn y Pafiliwn, nos Sul Mai gyda pherfformiadau gan artistiaid lleol a chenedlaethol.


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.