06 Mehefin 2012
Yn 么l Ll欧r Titus, enillydd 19 oed y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni, mae unigrwydd yn thema gyffredin i'w waith, a drama am ddiffyg cyfathrebu sydd wedi ennill iddo'r fedal yng Nglynllifon.
Y llynedd, fe gipiodd y myfyriwr o Frynmawr, Ll欧n, am ddarn o ryddiaith oedd yn rhoi darlun tywyll o gymdeithas yn cael ei rheoli gan 'y brawd mawr'. Y tro hwn, defnydd cymdeithas o dechnoleg ydy ei destun.
"Mae'r ddrama yn sb茂o ar dechnoleg," meddai Ll欧r, "nid mod i'n decnoff么b - dwi'n defnyddio Facebook ac yn trydar fy hun - ond mae pobl yn cyfathrebu efo mwy a mwy o bobl ar y we ond ddim yn cydnabod ei gilydd wrth basio ar y stryd."
Ychwanegodd Ll欧r ei fod yn credu fod na elfen hunan-bwysig i'r arfer o drydar.
Mae ei waith meddai yn canolbwyntio ar gymeriadau yn hytrach na sefyllfaoedd - mae tri chymeriad yn y darn, pob un 芒'u pwysau eu hunain yn eu bywydau.
"Mae'r cymeriadau i gyd yn unig," esboniodd Ll欧r. "Dydyn nhw ddim ond yn cyfathrebu drwy dechnoleg, ond maen nhw'n dal yn unig, ma' nhw'n gweiddi ar ei gilydd ond ddim yn dallt ei gilydd. Mae technoleg yn newid ond nid pobl am wn i," ychwanegodd.
"Mae'r darn yn rhybudd i raddau, ond dydw i ddim yn pregethu gymaint y tro yma," meddai gan gyfeirio at ei waith buddugol yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011.
"Dydw i'n bersonol ddim yn berson tywyll ond mae hi'n ddrama etha tywyll - mae petha' tywyll yn tueddu i ennill yn yr Urdd!"
Yn Abertawe hefyd daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama a dywed ei fod wedi gwrando ar y feirniadaeth a gafodd yn y gystadleuaeth honno ac wedi datblygu ers hynny.
"Doedd hi ddim hanner digon hir, mae hon yn nes at 60 munud o hyd, a doedd hi ddim mor dda - roedd isio bod yn fwy uchelgeisiol meddai'r feirniadaeth. Roedd 'na ddylanwad Pinter ar y ddrama llynedd hefyd ond rydw i wedi mynd ar fy nhrywydd fy hun eleni," esboniodd.
Mae deialog yn bwysig iddo meddai Ll欧r, sydd hefyd yn mwynhau actio a pherfformio, ac mae'n defnyddio llawer o ddeialog yn ei ryddiaith hefyd.
Mae newydd gwblhau ei flwyddyn gyntaf yn astudio'r Gymraeg yn Ngholeg Prifysgol Bangor a'i uchelgais ydy gwneud bywoliaeth o ysgrifennu.
Ac am y profiad o fod ar y llwyfan yn ennill un o'r prif wobrau am yr eilwaith, dywedodd ei fod yn brofiad "cystal os nad gwell na'r llynedd gan ei fod yn fy ardal fy hun a lot o fy nheulu yma. Roedd mam, dad a fy chwaer yn gwybod mod i wedi ennill ond neb arall: dwi wedi bod yn deud lot o glwydda dros yr wythnosau diwetha'!"
Ac wrth gyflwyno ei neges o rybudd am ein defnydd o dechnoleg, mae ganddo air o gyngor: "Mi faswn i'n deud nad oes dim isio inni dderbyn popeth heb gwestiynu - does dim isio llyncu heb gnoi gynta!"