Bardd Plant newydd
'Mwynhau - nid dadansoddi'
Ifor ap Glyn - un o feirdd perfformio amlycaf Cymru fydd y Bardd Plant cenedlaethol nesaf.
Mae'n dilyn Caryl Parry Jones.
"Mae'n fraint derbyn y swydd a dwi'n edrych ymlaen at weithio hefo plant a phobl ifainc ar draws Cymru. Dwi'n gobeithio defnyddio rhyw gymaint ar fideo a cherddoriaeth wrth greu cerddi hefo nhw," meddai.
Ef yw'r nawfed bardd i dderbyn y teitl gan ddilyn Myrddin ap Dafydd, Meirion McIntyre Huws, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Gwyneth Glyn a Caryl.
Yn awr yn byw yng Nghaernarfon cafodd cafodd Ifor ap Glyn ei eni a'i fagu yn Llundain, y bedwaredd genhedlaeth o'i deulu i gael ei fagu yno. Mae'n briod a chanddo bedwar o blant.
Yn dilyn cyfnod yn sgriptiwr theatr a theledu mae'n awr yn gynhyrchydd teledu.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol M么n 1999 am gasgliad o gerddi yn ymwneud 芒 dysgwyr a'r broses o ddysgu iaith ac mae'n fardd perfformio hynod o boblogaidd yn perfformio mewn tafarndai, clybiau, festri capel a darlithfeydd.
Dywedodd ei fod yn hoff o gyflwyno'i gerddi yn fyw ac o gyfuno barddoniaeth a chyfryngau eraill a'i fodf yn edrych ymlaen at arbrofi yn ystod ei gyfnod yn fardd plant.
Ond nid yw'n ymddangos y bydd yna lawer o ddadansoddi barddoniaeth yn ystod ei dymor.
"Rhywbeth i'w fwynhau ydi barddioniaeth - dydw i ddim yn gweld lot o bwynt mewn dadansoddi," meddai gan ychwanegu mai ei fwriad yw annog plant i fwynhau barddoniaeth a'u cymell ifarddoni eu hunain.
Perfformiodd o flaen cynulleidfa o 10,000 mewn dathliad i agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, gan rannu llwyfan 芒 Tom Jones a Shirley Bassey! Mae wedi perfformio hefyd yn America, Gwlad Pwyl a Lloegr, gan deithio sawl gwaith yn Iwerddon.