大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

大象传媒 Homepage
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cefndir
Gw欧r Mawr M么n

Rhai o enwogion llenyddol M么n. Beth am ychwanegu at y rhestr gyda'ch dewis chi o enwogion o'r ynys?





Cybi a Seiriol: mae sawl fersiwn o'r stori am y seintiau Celtaidd Seiriol Wyn a Chybi Felyn y naill yn byw ym Mhenmon a'r llall yng Nghaergybi. Yn 么l y fersiwn fwyaf poblogaidd byddai'r ddau yn cerdded ar draws yr ynys i gyfarfod ei gilydd; Seiriol yn cerdded tua'r gorllewin yn y bore a'r haul tu cefn iddo a Chybi tua'r dwyrain gyda'r haul i'w wyneb gan gyfarfod yng Nghlorach yng nghanol yr ynys. Derfyn dydd byddai'r ddau yn dychwelyd i'w cartrefi - Cybi yn awr yn wynebu machlud haul yn y gorllewin ond Seiriol yn wynebu'r dwyrain a'r haul unwaith eto tu cefn iddo. O ganlyniad roedd wyneb Cybi (Felyn) wedi ei liwio gan yr haul ond Seiriol (Wyn) yn welw heb gyffyrddiad yr haul.
Mewn fersiwn arall byddai'r ddau yn teithio mewn cwch a chyfarfod ar y Fenai - gyda'r un canlyniad wrth gwrs.

John Eilian: John Tudor Jones oedd enw iawn y newyddiadurwr a'r bardd a aned yn Llaneilian, M么n.

Ef oedd golygydd cyntaf Y Cymro pan sefydlwyd hwnnw yn 1932. Bu hefyd yn gweithio ar y Western Mail a'r Daily Mail ac ar y Times of India pan yn byw yno.

Yn ogystal 芒 bod yn olygydd cyntaf Y Cymro ef hefyd sefydlodd un o'r cylchgronau mwyaf blaengar erioed yn yr iaith Gymraeg, Y Ford Gron yn y tridegau gan ddod a ffresni nas gwelwyd o'r blaen i gylchgrawn poblogaidd Cymraeg.

Daeth ei yrfa i ben gyda phapurau'r Herald yng Nghaernarfon lle'r oedd yn brif olygydd. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn aelod o gomisiwn a sefydlwyd gan y Llywodraeth i edrych ar y Wasg ym Mhrydain.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1947 a'r Goron yn 1949. Er mai ar y teitl Meirionnydd yr enillodd ei Goron dywedodd mai M么n oedd ar ei feddwl wrth gyfansoddi'r gerdd a'i deimladau tuag at yr ynys sydd ynddi mewn gwirionedd.

Bu bron iddo 芒 bod yn hwyr ar gyfer ei goroni gan i'w gar orboethi ar y ffordd i'r seremoni.

Un o gampau ei gerdd a enillodd i'r gadair oedd iddo ei chyfansoddi ar 'fesur Madog' un o'i arwyr ll锚n ers ei ddyddiau yn y coleg yn Aberystwyth, T. Gwynn Jones.

Yn wleidyddol yr oedd yn Geidwadwr ac yn frenhinwr pybyr a wrthwynebai'n llwyr Blaid Cymru a dulliau mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith. Aflwyddiannus fu ei ymdrech i ennill M么n i'r Tor茂aid mewn etholiad cyffredinol fodd bynnag.

John Morris-Jones: Ganwyd y bardd ac un o ysgolheigion pennaf y Gymraeg yn Nhrefor ger Llandrygan ond ei fagu yn Llanfairpwllgwyngyll.

Er mai mewn Mathemateg y graddiodd yn Rhydychen daeth dan ddylanwad Syr John Rhys, Athro Celteg Rhydychen gan beri iddo ymddiddori mewn llenyddiaeth a gramadeg Gymraeg a sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn y coleg yn 1886.

Fel darlithydd yn y Gymraeg y daeth i Goleg y Brifysgol Bangor yn 1889 gan ddod wedyn yn bennaeth yr adran.

Byddai'n beicio o'i gartref, Ty Coch yn Llanfairpwll, dros y bont i'w waith yn y coleg.

Yr oedd ei gyfraniad mwyaf mewn diwygio a safoni orgraff y Gymraeg a'i ddadansoddiad safonol o Gerdd Dafod mewn llyfr o'r enw hwnnw a gyhoeddodd yn 1925.

Yr oedd yn delynegwr deheuig ond nid pawb a welai ragoriaeth i'w farddoniaeth gyda T Marchant Williams yn disgrifio ei gyfrol Caniadau fel, "Machine-made poetry on hand-made paper."
Ef gyfieithodd benillion Omar Khayyam i'r Gymraeg.

William Jones: Nid yr un a grewyd gan T Rowland Hughes ac y methodd ei gloc larwm ond gwr a brynodd Llwydiarth Fawr, Llannerch-y-medd, yn 1889. Roedd yn cael ei adnabod fel William Klondyke Jones a daeth i enwogrwydd am wneud ei ffortiwn yn adeiladu tai yn Lerpwl. Fe'i ganwyd yn 1840 a bu farw yn 1918. Ym 1900 creodd waith brics mawr yn Llannerch-y-medd.
Yr oedd Llwydiarth Fawr yn enwog am ei gysylltiad ag uchelwyr M么n yn dyddio'n 么l i ddyddiau Tegerin ap Carwed yn y ddeuddegfed ganrif.

Lewis Morris: Un o brif arweinwyr deffroad llenyddol y ddeunawfed ganrif yng Nghymru. Ganwyd ef ar Ddydd Gwyl Dewi 1700 ym Mhentref Eiriannell.

Yn 1737 cafodd swydd gyda'r Llywodraeth yn arolygu, mesur a darlunio porthladdoedd ac arfordiroedd Cymru.

Yn 1735 cyhoeddodd gylchgrawn mwyaf byrhoedlog Cymru. Tlysau yr Hen Oesoedd yn cynnwys darnau o weithiau yr hen Gymry. Ni chafodd ddim cefnogaeth ac o'r herwydd fu yna ddim ail rifyn!

Fel bardd yr oedd wedi meistroli'r mesurau caeth a chyhoeddwyd 46 o'i ganiadau mwyaf adnabyddus yn y Diddanwch Teuluaidd, 1763.

Ond at Feirionnydd, nid M么n, y mae ei linellau mwyaf cofiadwy yn cyfeirio gan gynnwys y cwpled:
Glanach yw, os dweda' i'r gwir,
Morwynion tir Meirionnydd.

Ac hefyd:
Myned adref i mi sydd raid,
-Mae'r enaid ym Meirionnydd.

Ef oedd athro dau o feirdd amlyca'r cyfnod, Goronwy Owen a Ieuan Brydydd Hir.

Bu farw yn 1765 a'i gladdu yn Llanbadarn fawr ger Aberystwyth.

Goronwy Owen: Yn fab i feddwn gwastraffus afradodd y mab hefyd ei gyfleon gan ddod i ddiwedd trafferthus ymhell o'i "F么n dirion dir" yn yr Unol Daleithiau.

Ganwyd ef Ddydd Calan 1723 ym mhlwyf Llanfairmathafarn-eithaf ac i'w fam y mae'r diolch iddo gael addysg well na'r cyffredin.

Byddai'n mynychu cartref Lewis Morris ym Mhentref Eiriannell lle derbyniai nid yn unig addysg gan Lewis ond frechdan f锚l a cheiniog gan ei fam.

Bu yn Ysgol Ffriars, Bangor ac wedyn yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.Bu'n athro mewn ysgolion ym Mhwllheli a Dinbych ac am dair wythnos bu'n gurad yn ei blwyf genedigol cyn symud yn gurad eto yng Nghroesoswallt, Donnington, Walton a Northolt yn Lloegr.

Ym mhobman fe'i dilynwyd gan dlodi a thrafferthion a hwyliodd yn y diwedd ar long yn dwyn yr enw addas, Trial, i'r America, lle treuliodd weddill ei ddyddiau yn dal ym mhen ei helynt ac mewn hiraeth dwys am Gymru, a M么n yn arbennig, gan fentro i'r diwydiant tyfu baco hyd yn oed.

Mae'n cael ei gyfrif yn fardd pennaf y ddeunawfed ganrif gyda'i gywydd yn Ateb Huw'r Bardd Coch o F么n, lle mae'n mynegi ei hiraeth am yr ynys, a chywydd arall, Y Farn Fawr, a marwnad i'w ferch, "Elin liw hinion" ymhlith ei oreuon.

Yr oedd yn cael ei adnabod fel Goronwy Ddu o F么n.



cyfannwch

Grahame o Gaerdydd
Rwy'n gobeithio mynd i'r Urdd eleni.

Sion Caerdydd
Diddorol iawn!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:

Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy