大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

大象传媒 Homepage
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Bardd plant newydd

Tudur Dylan Jones"Mwynha dy hun," oedd cyngor bardd plant diwethaf Cymru i'r un newydd ar gyfer eleni.






Wedi i'w enw gael ei gyhoeddi oddi ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethopl yr Urdd nos Fawrth dywedodd y Prifardd Tudur Dylan Jones iddo ofyn i'w ragflaenydd, Ceri Wyn Jones, am air o gyngor ynglyn 芒'r swydd.

"Yr hyn 芒 ddywedodd o oedd, 'Mwynha dy hun',"meddai gan ychwanegu fod hynny, erbyn meddwl, gystal cyngor 芒'r un ar gyfer y swydd.

Dywedodd Tudur Dylan Jones hefyd fod tuedd ymhlith oedolion i gredu mai y nhw sy'n dysgu plant.

"Ond rydw i'n sicr yn ystod y cyfnod hwn mai y plant fydd yn fy nysgu i," meddai.

Cynllun rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi Gymreig a'r Urdd ydi Bardd Plant Cymru.

Y Bardd Plant cyntaf oedd Myrddin ap Dafydd ac fe'i dilynwyd gan, Meirion McIntyre Huws, Menna Elfyn a Cheri Wyn Jones.

Bydd olynydd Tudur Dylan Jones yn cael ei enwi yn Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf.

Fel Bardd Plant bydd yn cynnal gweithgareddau mewn ysgolion ac yn dilyn arbrawf llwyddiannus y llynedd bydd hefyd yn cynnal nifer o weithdai ebost gyda hyd at dair ysgol yn cymryd rhan ar yr un pryd.

Y gobaith yw y bydd y gweithdai arlein hyn yn rhoi cyfle i fwy o ysgolion fanteisio ar arbenigedd ac arweiniad y bardd.

"Mae Dylan, a gafodd ei eni yng Nghaerfyrddin ond ei fagu ym Mangor, eisoes yn fardd adnabyddus, ffraeth a phoblogaidd," meddai datganiad yn cyhoeddi ei enw.

Ef hefyd yw cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd ac yn wyneb cyfarwydd ar y maes yr wythnos hon.

Yn byw ar hyn o bryd yng Nghaerfyrddin mae'n athro yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.

Mae'n fardd o hil gerdd yn fab i'r Prifardd John Gwilym Jones y cyn archdderwydd ac yn brifardd. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn 22 ac ym 1995 enillodd gadair yr Eisteddfopd Genedlaethol a chael ei gadeirio gan ei dad ei hun!

Ymhlith ei ddiddordebau mae cadw'n heini ac mae wedi rhedeg ym Marathonm Llundain fwy nag unwaith. Mae hefyd yn ymddiddori mewn seryddiaeth.

Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu sioe gerdd i Ysgol Gerdd Ceredigion ac yn golygu cyfrol o waith T. Llew Jones.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael gweld y byd trwy lygaid y plant a rhannu eu gobeithion a'u pryderon a chael fy nysgu ganddyn nhw," meddai.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy