大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

大象传媒 Homepage
Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Yr Urdd dan yr ordd

Gwilym OwenMae amheuaeth yn cael ei godi yr wythnos hon ynglyn 芒 hawl yr Urdd i alw ei hun yn fudiad ieuenctid.






Mewn erthygl grafog yn Y Cymro mae'r darlledwr, Gwilym Owen, yn herio'r mudiad i gyfaddef mai "mudiad plant ac ysgolion" ydi o mewn gwirionedd yn hytrach na gwir fudiad ieuenctid.

Fore Iau, nid oedd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd wedi darllen y sylwadau ond dywedodd y byddai yn ymateb wedi gwneud hynny.

Yn yr erthygl sydd, yng ngeiriau Gwilym Owen, "yn rhoi pin fach dyner yn swigan hunangyfiawder llethol" y mudiad mae'n holi:

"Oni fyddai hi'n llawer fwy onest petai'r Urdd yn cyfaddef mai mudiad plant ac ysgolion ydi o bellach?"

Mae'r darlledwr a fu yn weithiwr ieuenctid ei hun ar cyn troi at ddarlledu yn ymhelaethu:
"Onid hanfod mudiad ieuenctid ydi cynnig gwasanaeth i bobl ifainc go iawn yn y gymdeithas y tu allann i oriau ysgol? Onid dyna mae mudiad fel Y Ffermwyr Ifanc, Y Sgowtiaid a'r Geidiaid yn ei wneud?

"Onid yw 90 y cant o weithgarwch ardderchog yr Urdd yn digwydd o fewn ysgolion o dan arweiniad athrawon? Onid oes llawer o waith eisteddfodol y mudiad yn cael ei baratoi yn ystod oriau dysgu?" meddai.

Dywed nad ceisio tanseilio gwaith yr Urdd y mae wrth ddweud y pethau hyn "ond yn hytrach gofyn am ychydig o wrthrychedd yn y cyflwyniad cyhoeddus o'r Mudiad fel mudiad ieuenctid credadwy".

Ac mae'n mynd rhagddo i holi faint o "wir aelwydydd" sydd gan yr Urdd yng Nghymru erbyn hyn y tu allan i ysgolion.

Sian Eirian - hen weld yr erthygl"Pa mor ymwybodol," hola, "ydi criwiau o bobl ifanc mewn pentrefi yng nghadarnleoedd y Gymru Gymraeg o'r hyn sydd gan yr Urdd i'w gynnig.

"Faint o'r bobl ifanc hynny a drafferthodd i baratoi mewn unrhyw ffordd ar gyfer Prifwyl M么n eleni," meddai gan ychwanegu mai'r union bobl hyn sydd angen arweiniad mudiad ieuenctid fel yr Urdd yn hytrach na'r rhai hynny sydd o fewn "tyrau ifori" neuaddau Cymraeg y brifysgol ym Mangor ac Aberystwyth.

"Eu gwasanaethu hwy fyddai'n cyfiawnhau'r gosodiad mai hwn yw gwir fudiad pobl ifanc Cymru," meddai.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am F么n

Gw欧r Mawr M么n

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy