|
|
大象传媒 Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonGeiriau wrth y mil - iwnChwilio am hoff air y Cymry o blith miliwn
Bu Gwyneth Glyn yn siarad am un digwyddiad mewn ysgol a wnaeth ei blwyddyn yn Fardd Plant Cymru yn un wefreiddiol o werth chweil.
Disgrifiodd gynnal gweithdy barddoni mewn ysgol lle yr oedd un plentyn yn arbennig o frwd ac yn ysu am gyfrannu. "Yn amlwg, fo oedd 'swot' y dosbarth yn ymateb mor dda. Ond wedi'r gweithdy daeth yr athrawes ataf a mynegi ei rhyfeddod achos doedd y bachgen bach yna brin yn dweud gair o gwbl yn y dosbarth tan y diwrnod hwnnw. "Yr oedd amgylchiadau trist iawn yngl欧n ag ef ond yr oedd yr ymwneud yma 芒 barddoniaeth wedi gwneud rhywbeth iddo fo," meddai wrth siarad a 大象传媒 Cymru'r Byd wedi iddi drosglwyddo mantell Bardd Plant Cymru i Caryl Parry Jones. "Yr oedd yn brofiad gwefreiddiol a wnaeth y flwddyn yn werth chweil," meddai. Yr oedd Gwyneth ar safle Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru ar y Maes gyda choeden eiriau ddeg troedfedd o uchder a 'dyfodd' yn ystod ei thymor. Gwahoddwyd plant i anfon geiriau i'w gosod ar ddail y goeden a derbyniwyd oddeutu mil o eiriau i gyd gyda Gwyneth wedyn yn cyfansoddi cerdd yn cynnwys pob un o'r geiriau hynny yn amrywio o siocled i Miss Parry! Gwelodd Gwyneth mai deg hoff air plant yw: Cymru, hapus, siocled, ffrindiau, blodyn, diolch, mefus, rygbi, p锚l-droed a Lerpwl! Ond o'r mil o eiriau a anfonwyd ati dywedodd mai chwyrligwgan yw ei ffefryn hi er nadyw yn un o'r deg mwyaf poblogaidd. Yn awr bydd rhwyd yn cael ei ehangu i ddod o hyd i hoff eiriau y byd fel rhan o ymgyrch Darllenwch Filiwn o Eiriau yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yng Nghymru. Mae dros 1,000 o ysgolion cynradd eisoes yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Darllen Miliwn o Eiriau sy'n gosod nod i blant ysgolion cynradd, dosbarthiadau ac ysgolion ddarllen miliwn o eiriau erbyn mis Rhagfyr pryd y datgelir hoff air y byd - a Chymru. Dywedodd Toni Schiavone, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yng Nghymru, mai'r nod yw gwneud darllen yn hwyl gan gynnwys darllen comics, cylchgronau, arwyddion, hysbysiadau ac unrhyw beth arall. Ychwanegodd fod miliwn o eiriau gyfystyr 芒'r nofel War and Peace ddwywaith! Bydd ysgolion wedi trefnu cannoedd o weithgareddau dros y misoedd nesaf. "Ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cymryd rhan yn yr arolwg terfynol o hoff eiriau," meddai Mr Schiavone. "Fel ffan rygbi, rwy'n gobeithio gweld ambell i bleidlais dros fy hoff air i 'Nant Conwy' - y t卯m gorau yn y byd!" Caryl - y Bardd Plant newydd Cysylltiadau
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |