大象传媒: '2,000 o swyddi'n diflannu'

Fe allai 2,000 o swyddi ddiflannu yn y 大象传媒 yn gyffredinol yn ystod y pum mlynedd nesa wrth i'r gorfforaeth geisio arbed 20% ar ei chyllideb.

Mae hynny tua 10% o'r gweithlu.

Bore Iau dywedodd Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies, y byddai 100 o swyddi'n diflannu yn 大象传媒 Cymru am fod angen arbed mwy na 拢10m o fewn pum mlynedd.

Fe fydd y toriadau mwya, meddai, mewn gwasanaethau cefnogi ac fe fydd rhai rhaglenni nad ydyn nhw ar yr oriau brig yn diflannu.

"Rhaid i ni wario o fewn ein hincwm ni," meddai.

"Mae'n glir bod angen i ni dorri'n 么l mewn rhai meysydd.

Dwy flynedd

"Yr hyn yr ydyn ni wedi ceisio ei wneud yw amddiffyn y cynnyrch sy, yn ein barn ni, yn hollbwysig i r么l genedlaethol 大象传媒 Cymru."

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Ar y cyfan, mae'r 大象传媒 yn bwriadu gwneud toriadau o 20%

Dywedodd y byddai'r rhan fwya o'r toriadau o fewn y ddwy flynedd nesa.

Fe fydd hyd at 57 o swyddi'n diflannu yn y gwasanaethau cefnogi, hyd at 14 yn Newyddion, hyd at 9 yn Radio Cymru a hyd at 10 yn Radio Wales.

Y bwriad, meddai, oedd dal i fuddsoddi mewn rhaglenni gwleidyddol, rhaglenni materion cyfoes fel Week In Week Out a chryfhau'r Post Cyntaf a Good Morning Wales.

Rhewi

Ar wah芒n i rygbi a ph锚l-droed, fe fydd llai o ddarllediadau byw o chwaraeon a llai o ddarllediau byw o'r Cynulliad a chynadleddau gwleidyddol. Fe fydd rhaglen Dragon's Eye yn diflannu.

Roedd yr adolygiad oherwydd penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi lefel y drwydded deledu dros y chwe' blynedd nesa'.

Daw 16% o'r toriad o ganlyniad uniongyrchol i rewi'r drwydded ond dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y 大象传媒, Mark Thompson, yn gynharach eleni y byddai angen 4% arall o arbedion.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain y llynedd na fyddai'r drwydded deledu yn codi o'r lefel bresennol o 拢145.50 y flwyddyn am o leia'r chwe blynedd nesa.

拢15尘

O dan Delivering Quality First rhaid i 大象传媒 Cymru wneud arbedion o 拢15 miliwn y flwyddyn o'i chyllideb erbyn 2013.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Bydd 大象传媒 Cymru yn cael gwared ar 100 o swyddi

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y 大象传媒 yn wynebu "penderfyniadau anodd er mwyn gwneud arbedion sylweddol dros y blynyddoedd nesaf".

Dywedodd ei fod wedi , Cadeirydd Ymddiriedolwyr y 大象传媒, yn gynharach eleni am effaith unrhyw doriadau ar ddyfodol darlledu cyhoeddus yng Nghymru.

"Fel cenedl gyda'i hiaith ei hun, ei diwylliant ei hun a'i sefydliadau gwleidyddol, mae cyfryngau cryf yn allweddol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr sy'n hysbysu, addysgu ac ysbrydoli pobl Cymru," meddai.

Dywedodd iddo gael cyfarfod gyda Chyfarwyddwr 大象传媒 Cymru ddydd Iau a chael sicrwydd bod y 大象传媒 yn "cymryd camau i warchod holl wasanaethau newyddion dyddiol yn y ddwy iaith ac gwarchod buddsoddiad mewn rhaglenni materion cyfoes a gwleidyddol yng Nghymru".

"Mae darpariaeth newyddion a materion cyfoes 大象传媒 Cymru o bwys gwirioneddol i wlad fach gydag adnoddau cyfryngau cyfyngedig," meddai.

'Cam ola'

"Er bod y cyhoeddiad yn achos pryder i'r gweithwyr rwy'n falch clywed y bydd diswyddiadau gorfodol yn gam ola ac fel llywodraeth byddwn yn gwneud popeth posib i helpu cynnal dyfodol ffyniannus i'r 大象传媒 yng Nghymru."

Dywedodd Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar dreftadaeth, ei bod yn "gwbl allweddol bod y 大象传媒 yn gwarchod y ddarpariaeth newyddion yng Nghymru".

"Dwi'n falch bod y prif raglenni Cymraeg wedi eu cadw ond yn hynod siomedig na fydd Dragon's Eye yn parhau ar ei ffurf bresennol.

"Dwi'n hyderus y bydd y cynnydd i gwmn茂au annibynnol o fewn 大象传媒 Cymru yn help i wynebu heriau newydd a chreadigol.

"Rwyf wedi fy nghalonogi na fydd 'na doriadau i wasanaeth newyddion dyddiol y gorfforaeth gan obeithio nad oes 'na ddrwg yn y caws gan nad yw'r manylion llawn wedi eu cyhoeddi."

Datganoli

Dywedodd Bethan Jenkins, llefarydd treftadaeth Plaid Cymru, fod y toriadau yn tanlinellu eu dadl y dylai darlledu gael ei ddatganoli.

"Mae'n allweddol bod penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.

"Mae angen rhwystro'r 'erydu fesul camau bach' - a gwneud yn siwr bod gan 大象传媒 Cymru'r adnoddau i adlewyrchu'n gywir y newidiadau yng Nghymru.

"Nid hon yw'r ffordd i ddemocratiaeth fodoli a ffynnu ac mae'r hyn sy'n digwydd yn cryfhau'r ddadl am ymchwiliad annibynnol i'r cyfryngau yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb y Newyddiadurwyr: "Mae nifer o streiciau wedi bod oherwydd torri swyddi yn y 大象传媒.

"Dyw'r setliad yngl欧n 芒'r drwydded deledu ddim yn ystyried beth mae'r gynulleidfa am gael am ei harian.

"Credwn yn gryf fod rhaid ailystyried y mater a bod angen dadl agored a thryloyw am ariannu'r 大象传媒 yn y dyfodol."