大象传媒

Cyngor yn gwrthod caniat谩u tyllu am nwy si芒l

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr y tu allan i gyfarfod y cyngor yn Y bari nos IauFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd ymgyrchwyr yn protestio y tu allan i'r cyfarfod

Mae cynghorwyr Bro Morgannwg wneud gwrthod yn unfrydol ganiat谩u tyllu am nwy si芒l.

Fe wnaeth yr 17 aelod o bwyllgor cynllunio'r cyngor ddweud bod y risg o lygredd i dd诺r daear, wedi llythyr gan gwmni D诺r Cymru, yn ei gwneud hi'n anodd derbyn y cais.

Cwmni Coast Oil and Gas Limited ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd wedi gwneud cais i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Lland诺 ar gyfer nwy si芒l a nwy confensiynol.

Mae'r cwmni yn dweud eu bod yn debygol o apelio.

Yn 么l llythyr D诺r Cymru, mae 'na "risg bychan iawn" o lygredd i'r d诺r daear wrth gefn o ganlyniad i waith tyllu.

"Ond os oes 'na dyllu eithafol a bod hylif yn cael ei ryddhau yn ystod y broses o ganlyniad i waith daearegol nad oedd modd ei ragweld, mae'r risg yn cynyddu yn sylweddol," ychwanegodd y llythyr.

Roedd cynghorwyr wedi gohirio'r penderfyniad ym mis Medi tan eu bod yn ymweld 芒'r safle ar stad ddiwydiannol Lland诺.

Fe wnaethon nhw ymweld 芒'r safle cyn gwneud y penderfyniad.

Roedd nifer o gynghorwyr yn credu bod angen cyngor a chanllaw gan Lywodraeth Cymru yn ogystal 芒 Llywodraeth San Steffan gan fod y pwnc o "bwys cenedlaethol".

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn credu fod 'na angen i edrych ar y potensial o dyllu am nwy yn ogystal 芒'r effaith o wneud y fath waith.

"Fe fyddem yn croesawu cyd-weithio gyda Llywodraeth San Steffan gyda'r gwledydd datganoledig i osod fframwaith polisi cenedlaethol sy'n ymwneud 芒 nwy si芒l.

"Llywodraeth San Steffan sy'n caniatau trwyddedau am y math yma o waith."

Roedd ymgyrchwyr 'Mae'r Fro yn dweud Na' wedi gwrthwynebu'r cais.

Nos Iau roedd 'na brotestiadau y tu allan i gyfarfod y cyngor.

Roedden nhw'n pryderu am yr elfen o dyllu am nwy si芒l sy'n cael ei alw'n ffracio.

Ffracio yw chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear er mwyn eu gwahanu a rhyddhau'r nwy.

Perygl

Yn America mae'r broses wedi achosi dadl gan fod rhai trigolion yn mynnu fod nwy si芒l yn llifo i'r cyflenwad d诺r yfed.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall hyd at 拢70bn o nwy si芒l fod yn y creigiau o dan de Cymru yn 么l awgrym

Mae Ffrainc wedi gwahardd y broses wedi i 10,000 o bobl arwyddo deiseb yn ei gwrthwynebu ond mae llywodraeth Gwlad Pwyl yn fwy cefnogol i'r broses.

Yn 么l ymgyrchwyr gall tyllu am nwy si芒l fod "yn beryglus iawn" ac fe fyddai heddwch ardal wledig yn cael ei ddinistrio.

Dal i fod yn destun ymchwiliad y mae sgil effeithiau ffracio ar 么l dau achos o gryndod tir yn ardal Blackpool y llynedd.

Am y tro mae'r gwaith o dyllu yn y rhan yna o Sir Gaerhirfryn wedi cael ei atal.

Roedd Gerwyn Williams, perchennog Coast Oil and Gas, wedi dweud nad oes ganddo fwriad i ffracio am beth amser ac mai gwaith archwilio sy'n cael ei wneud yn bennaf.

Dywedodd hefyd fod y potensial o ran ynni a swyddi yn aruthrol.

Roedd disgwyl i gynghorwyr ymweld 芒'r safle dan sylw yn Lland诺 er mwyn gweld effaith posib unrhyw waith tyllu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol