Ailagor adeilad hanesyddol ym Mlaenau Gwent

Mae adeilad oedd yn ganolfan weinyddol i hen waith dur Glyn Ebwy yn cael ei ailagor ar 么l gwaith adnewyddu gwerth 拢12 miliwn.

Y Swyddfeydd Cyffredinol, sy'n adeilad rhestredig gradd II, yw un o'r unig adeiladau sydd ar 么l ar safle'r hen waith dur.

Nawr bydd yn gartref i Archifdy Gwent, sy'n symud i Lyn Ebwy o Gwmbr芒n ac yn rhan o brosiect 'Y Gweithfeydd' ym Mlaenau Gwent.

Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys canolfan ymwelwyr a sinema "4D"

Canolfan ymwelwyr

Mae'r cyfan yn rhan o gynllun werth 拢350 i adfer y safle ar 么l i'r gwaith dur gau yn 2002.

Mae hen adeilad y Swyddfeydd Cyffredinol wedi ei hadfer, gan gynnwys grisiau ysblennydd, llawr teils mos盲ig a llefydd tan.

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Grisiau ysblenydd y Swyddfeydd Cyffredinol

Yn 么l Angharad Collins, rheolwr y ganolfan ymhelwyr, bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn gyfle i bobl ddod i wybod mwy am hanes y gwaith dur.

"Mae yna lawer iawn o eitemau, llyfrau gwreiddiol a chelfi. Mae hyd yn oed arogl y safle yn atgoffa rhywun o'r hanes. Mae'n adnodd bendigedig i'r ardal, " meddai.

Gwnaed estyniad i'r adeilad er mwyn cartrefu'r Archifdy.

Mae yna 6.2 milltir o silffoedd ar gyfer anghenion yr Archifdy, gyda rhai o'r dogfennau yn dyddio'n 么l i'r deuddegfed ganrif.

Mae'r adeilad wedi ei gynllunio i gadw'r casgliad o eitemau yn y cyflwr gorau posib.

Hyderus

Mae'r Swyddfeydd Cyffredinol ar hyn o bryd gyferbyn a safle adeiladu, lle bydd Coleg Addysg 么l 16 Blaenau Gwent yn cael ei godi.

Yn y pendraw bydd yna hefyd ganolfan hamdden a thai.

Cafodd Ysbyty Aneurin Bevan ei agor y llynedd.

Dywedodd Helen Reardon, swyddog gyda phrosiect Y Gweithfeydd, fod pobl leol yn croesawu'r cynllun adfywio.

"Nid yw'n bosib rhoi bopeth yn 么l fel y bu, ond gyda'r cymysg cywir o adeiladau a chyfleoedd gwaith, rydym yn hyderus am y dyfodol, " meddai Ms Reardon.