Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymddiriedolaeth am weld S4C yn gwneud arbedion fel 大象传媒 Cymru
Fe ddylai S4C wneud arbedion tebyg i rai 大象传媒 Cymru pan fydd yn cael ei hariannu gan y drwydded deledu, yn 么l cynnig Ymddiriedolaeth y 大象传媒.
Mae'r ymddiriedolaeth wedi dweud eu bod wedi cynnig trefniant cyllidol "lled sefydlog" i'r sianel.
Roedd aelodau Awdurdod S4C yn cyfarfod nos Lun i drafod cyhoeddiad Ymddiredolaeth y 大象传媒 a fyddai'n gweld S4C yn cael llai o arian erbyn 2016/17 nag yn 2013/14.
Mae disgwyl datganiad gan yr Awdurdod ddydd Mawrth.
Mae Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am gyllid y sianel o'r Adran Diwylliant, cyfryngau a chwaraeon i'r 大象传媒.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod y dyraniad yn ddibynnol ar gytundeb rhwng Ymddiriedolaeth y 大象传媒, S4C a Llywodraeth y DU ar drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd S4C yn y dyfodol.
Fe ddylai'r cyfraniad fod yn "lled sefydlog" am weddill cyfnod olaf setliad presennol ffi trwydded y 大象传媒 yn 么l Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Yr Arglwydd Patten.
Ond dywedodd fod rhaid i S4C "gyflawni'r un lefel o effeithiolwrydd ag y mae'r Ymddireidolaeth yn ei osod ar 大象传媒 Cymru".
"Mae cynnig y cyllid yma yn adlewyrchu'n hymrwymiad i gefnogi gwasanaeth cryf yn y Gymraeg," meddai.
Dyw ffigurau'r ymddiriedolaeth ddim yn cynnwys 10 awr yr wythnos o raglenni y mae'r 大象传媒 yn ei ddarparu i S4C fel rhan o'r drwydded ar hyn o bryd, fel Newyddion a Pobol y Cwm.
Mae'r rhaglenni hynny werth tua 拢23 miliwn y flwyddyn, ond mae disgwyl i'r ffigwr yna ostwng i 拢20 miliwn erbyn 2013.
Ychwanegodd Yr Arglwydd Patten y gallai S4C warchod ei chyllid drwy'r posibilrwydd o gynyddu'r arian o gomisiynu rhaglenni annibynnol petai'n "cyd-weithio gyda'r 大象传媒 i atal dyblygu gweithredol".
Mae'r 大象传媒 eisiau rhan yn y broses o apwyntio awdurdod S4C.
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru ar Ymddiriedolaeth y 大象传媒, fod hi nawr yn amser "i ddod at ein gilydd" gan fod pobl Cymru "wedi eu rhwygo ar y mater am beth amser".
"Dwi'n credu bod hwn yn ddyraniad hael ac yn arwydd o ewyllys da tuag at y sianel a'r gynulleidfa Gymraeg gan yr ymddiriedolaeth," meddai.
"Mae'n amser i symud ymlaen.
"Mae'n sefyllfa anodd nad oedd neb wir ei eisiau."