Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Archesgob i gysegru canolfan addysg crefyddol newydd
Bydd canolfan addysg newydd yn cael ei chysegru Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, mewn gwasanaeth arbennig yn Wrecsam ddydd Sadwrn.
Mae'r ganolfan ar gyfer Addysg Crefyddol a Datblygu Ffydd wedi ei lleoli yn eglwys y plwyf, Sant Silyn.
Nod y ganolfan 拢500,000 yw hybu addysg grefyddol mewn ysgolion.
Bydd hefyd yn cynorthwyo yng ngwaith yr eglwys gyda phobl ifanc.
'Ysbrydoli'
Dywedodd Dr Morgan: "Mae dysgu am wahanol grefyddau a beth y gall pobl ifanc weld fod cymryd crefydd o ddifrif yn ogystal 芒 gweld bywyd o safbwyntiau eraill yn bwysicach nag erioed heddiw.
"Yr her i'r ganolfan newydd yma fydd i ddarparu deunyddiau o ansawdd uchel fydd yn ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc.
"Rwyf yn falch iawn i'w gysegru ac yn dymuno bob llwyddiant iddi."
Mae ysgolion eisoes yn ymweld 芒'r ganolfan ac mae'r t卯m addysg wedi datblygu 21 gweithdy i addysgu pobl ifainc.
Gavin Craigen yw cyfarwyddwr gweithredol y ganolfan.
"Ein nod yw gweld Addysg Crefyddol yn cael ei ddysgu'n fwy effeithiol i blant a phobl ifainc - nid yn unig yn Wrecsam ond ledled Gymru." meddai.
Mae'r prosiect wedi ei sefydlu mewn cysylltiad gyda Chanolfan y Santes Fair yn Abergwyngregyn, Sefydliad Addysg Blwyfol Wrecsam ac Eglwys Sant Silyn.
Bydd y gwasanaeth cysegru yn cael ei gynnal am 3pm ar ddydd Sadwrn, Ionawr 14.