Cannoedd mewn rali yn erbyn cau ward yn Ysbyty Bryn Beryl
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 400 o bobl mewn rali yngl欧n 芒 dyfodol Ysbyty Bryn Beryl ym Mhwllheli ddydd Sadwrn.
Dechreuodd y rali ym maes parcio'r Maes, Pwllheli, am 1pm.
Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y gallai ward lle oedd 15 gwely'n cau.
Mae'r newidiadau yn rhan o gynllun ehangach y bwrdd iechyd sydd am newid gwasanaethau yn rhai o'r ysbytai cymunedol a sicrhau y bydd mwy o welyau yn yr ysbytai mwya.
Dim ffydd
Cyn y rali dywedodd y Cynghorydd Sir Peter Read nad oedd ganddo ffydd yn addewidion y bwrdd iechyd.
"Caeodd y bwrdd iechyd ward arall yn yr ysbyty 18 mis yn 么l, gan ddweud y byddai'n ail agor ymhen tri mis ond mae'r ward honno'n dal ar gau.
"Mae hyn yn golygu bod pobl yn gorfod teithio i Langefni i ymweld 芒 chleifion o'r ardal hon.
"Rydyn ni'n cynnal y brotest am ein bod ni'n ofni y bydd yr ysbyty yn cael ei gau yn y tymor hir."
'Tawelu meddwl'
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Rhaid i ni dawelu meddwl y cyhoedd fod Ysbyty Bryn Beryl yn dal i fod yn rhan allweddol o'n cynlluniau i ddarparu gofal iechyd yn ardal Dwyfor ac nad oes unrhyw gynlluniau i gau'r ysbyty.
"Fodd bynnag roedd yn briodol ein bod yn edrych yn ofalus ar sut yr ydym yn gwneud y defnydd gorau o'n staff a'u sgiliau yn ystod y gaeaf sy'n gallu bod yn gyfnod anodd.
"Rydym yn gwybod o brofiad fod y nifer o gleifion sydd angen gofal brys yn debygol o godi ar adeg pan fo lefelau salwch ymhlith ein staff yn debygol o godi."
Roedd y newidiadau dros dro i wasanaethau, meddai, er mwyn sicrhau mai'r rhain oedd y mwyaf addas ar gyfer diwallu anghenion disgwyliedig cleifion.
"... penderfynwyd lleihau oriau agor yr Uned M芒n Anafiadau dros dro oherwydd bod ar gyfartaledd lai nag un claf y dydd yn dod yno ar 么l 5pm dros gyfnod y gaeaf," meddai.
'Gofal lliniarol'
"Tra bod lefelau'r defnydd o welyau yn amrywio, rydym yn cadw digon o welyau'n agored i dderbyn y mwyafrif o gleifion o'r ardal y gellir gofalu amdanyn nhw'n ddiogel mewn ysbyty cymunedol.
Dywedodd eu bod wedi newid eu cynlluniau cyntaf rhag of y bydden nhw'n tarfu ar ofal lliniarol.
Fe fyddai'r gwelyau yn ailagor ym mis Ebrill, meddai, ac oriau agor hwy yr Uned M芒n Anafiadau yn dychwelyd ebyn gwyliau'r Pasg.
Roedd y bwrdd yn deall y gallai'r newidiadau achosi anawsterau i nifer fechan o gleifion.
"Gan fod mwy o staff ym Mangor o ganlyniad i'r newidiadau bydd mwy o welyau ar gael er budd holl drigolion y gogledd orllewin, gan gynnwys Dwyfor.
"Heb y newidiadau mi fydden ni wedi wynebu'r risg o fethu diwallu'r anghenion o ran gofal brys ac fe fyddai hynny'n annerbyniol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011