'Her' i Brif Weithredwr newydd S4C

Wrth i Brif Weithredwr newydd S4C Ian Jones ddechrau ar ei waith yn swyddogol ddydd Llun, mae'n gwybod bod 'na sawl her yn ei wynebu.

Cyhoeddodd Adran Ddiwylliant San Steffan newid yn nhrefn ariannu S4C yn 2010, gan olygu fod y Sianel yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb o 拢100 miliwn y flwyddyn.

Bydd y sianel yn dibynnu ar y 大象传媒 am ran helaeth o'i harian yn y dyfodol, gyda mwyafrif y gyllideb yn dod o ffi'r drwydded deledu.

Wrth i Mr Jones ddechrau ar ei swydd, mae 'na rybudd gan y sector annibynnol nad yw eu cynhyrchwyr nhw'n cael digon o arian am eu gwaith erbyn hyn - ac y gallai hynny amharu ar raglenni.

Un cwmni sy'n wynebu toriad yn eu cyllid gan S4C yw Tinopolis, sy'n cynhyrchu rhaglenni dyddiol Wedi3 a Wedi7. Mae'r cwmni yn dweud y bydd 38 o'u staff yn colli eu gwaith ym mhencadlys y cwmni yn Llanelli.

'Newid strategaeth'

Dywedodd Ron Jones, cadeirydd y cwmni: "Fe fydd 'na newidiadau. Fe fydd y gwylwyr yn sylweddoli o'r funud gynta' fydda' nhw'n gwylio rhaglenni dyddiol.

"Mae lan i'r gwylwyr i benderfynu a yw hynny a'r rhaglenni newydd yn eu siwtio nhw. Nid fi fydd yn penderfynu a fyddan nhw cystal, i'r gwylwyr mae'r penderfyniad yna i fod.

"Mae'n rhaid i ni sylweddoli bod 'na newid yn strategaeth y sianel, sydd yn mynd i effeithio ar raglenni newydd. Mae'r rhaglenni newydd yn mynd i fod tipyn yn rhatach. Mae hynny'n mynd i sicrhau bod ein gallu ni i ddarlledu'n fyw o gymunedau Cymru'n mynd i fod yn llai.

"Ond mae S4C yn ei weld e fel rhan o brosiect mwy eang i ymestyn i gynulleidfa newydd...amser a ddengys os yw hynny'n mynd i weithio."

'Ansawdd gorau posib'

Mewn ymateb i sylwadau Ron Jones, dywedodd llefarydd ar ran y sianel:

"Mae S4C wedi llunio amserlen newydd ar gyfer 2012 yn unol 芒 gweledigaeth sydd yn ymateb i gwtogi sylweddol ar incwm y sianel, ond sydd hefyd yn cynnal amserlen rhaglenni o'r ansawdd gorau posib.

"Mae cwmn茂au wedi ymateb yn gadarnhaol i'r her trwy gydweithio gydag S4C i geisio sicrhau'r gwerth gorau am arian ac mae S4C yn sicr y bydd y gwylwyr yn gweld rhaglenni a chyfresi newydd a chyffrous yn 2012.

Wrth gyfeirio'n benodol at sefyllfa Tinopolis, dywedodd y sianel fod y cwmni "wedi derbyn dau dender gwerth 拢7.8 miliwn i ddarparu gwasanaeth sydd yn adlewyrchu pynciau trafod dyddiol a'r hyn sydd yn bwysig ym mywydau pobl Cymru ac mae S4C yn hyderus y bydd Tinopolis yn medru cyflawni hynny."

Yn y cyfamser, roedd Ian Jones wedi trydar ar wefan 'Twitter' ddydd Llun - "Cydweithio, Cyfathrebu , Uchelgais , Hyder a Beiddgarwch ...geiriau'r misoedd a'r blynyddoedd nesa", ysgrifennodd.