Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Plaid: Pedwar yn y ras i arwain Plaid Cymru
Pedwar ymgeisydd sydd 'na ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Fe fydd Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood am olynu Ieuan Wyn Jones yn arweinydd Plaid Cymru.
Mae disgwyl i'r enillydd gael ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ar Fawrth 15.
Y system bleidlais amgen fydd yn cael ei defnyddio.
Fe wnaeth yr enwebiadau ar gyfer yr arweinydd agor ar Ionawr 3 a chau am hanner nos nos Iau Ionawr 26.
Bydd cyfres o gyfarfodydd yn ystod mis Chwefror lle bydd y pedwar yn cymryd rhan cyn i'r papurau pleidleisio gael eu hanfon i bob aelod ddiwedd y mis.
'Ymgeiswyr cryf'
"Rydw i'n falch iawn fy mod i'n gallu cyhoeddi bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid," meddai Rhuanedd Richards, Prif Weithredwr Plaid Cymru a'r Swyddog Etholiadol yn yr etholiad.
"Dyma i chi bedwar ymgeisydd cryf iawn sydd yn awyddus i arwain ein plaid.
"Mae'r etholiad eisoes wedi creu cryn gyffro.
"Ac mae'r ffaith fod cynifer o bobl wedi dewis ymuno 芒'r blaid er mwyn bod yn rhan o'r broses a symud y blaid a Chymru yn eu blaenau yn argoeli'n dda iawn.
"Mae yna dwf aruthrol wedi bod yn aelodaeth y blaid dros y misoedd diwethaf."
Mae'r pedwar ymgeisydd yn Aelodau Cynulliad, Elin Jones yng Ngheredigion a Dafydd Elis-Thomas yn Nwyfor Meirionnydd.
Aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru yw Simon Thomas ac mae Leanne Wood yn aelod Canol De Cymru.
Ieuan Wyn Jones sydd wedi arwain gr诺p Plaid yn y Cynulliad ers 2000 a llwyddodd i wrthsefyll ymgais i'w ddisodli yn 2003.
Ym mis Mai cyhoeddodd ei fwriad i ildio'r awenau wedi canlyniadau siomedig yn Etholiad y Cynulliad.