Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Airbus yn gorfod archwilio adenydd
Mae cwmni Airbus yn gorfod archwilio adenydd pob awyren A380 sy'n cael eu defnyddio.
Asiantaeth Diogelwch Awyrennau Ewrop ddywedodd fod angen archwilio 67 o awyrennau.
Dywedodd Airbus nad oedd craciau adenydd rhai o'r awyrennau yn bygwth diogelwch ac y byddai'r adenydd yn cael eu hatgyweirio os oedd unrhyw ddifrod.
Mae'r adenydd, systemau tanwydd a chyfarpar glanio yn cael eu hadeiladu ym Mrychdyn, Sir y Fflint, a Filton ger Bryste.
'Ehangu'
Ym mis Ionawr dywedodd yr asiantaeth fod angen archwilio 20 o'r awyrennau A380 sy'n cael eu defnyddio yn y byd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Oherwydd canlyniadau archwiliad mis Ionawr fe benderfynwyd ehangu'r archwiliad i'r holl awyrennau ..."
Wedi archwiliadau penderfynodd cwmni Qantas stopio defnyddio awyren Airbus A380 am hyd at wythnos ddydd Mercher wedi i 36 o graciau bach gael eu darganfod ym mracedi'r adennydd.
Daeth y craciau m芒n llai na 2cm o hyd i'r amlwg ar ran o'r adenydd wedi cynnwrf yn yr awyr ar daith rhwng Llundain a Singapore ym mis Ionawr.
Dywedodd Qantas fod y craciau'n gysylltiedig 芒 "materion cynhyrchu".
Mae Cwmni Hedfan Singapore eisoes wedi trwsio rhai o'u hawyrennau A380 wedi i'r cwmni ddarganfod craciau.