Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Colli'r darlledwr a'r cynhyrchydd teledu Emyr Daniel
Bu farw'r darlledwr a'r cynhyrchydd teledu Emyr Daniel.
Roedd yn 63 oed.
Bu'n newyddiadurwr gyda 大象传媒 Cymru gan weithio ar raglen Heddiw a Radio Cymru rhwng 1974 a 1981.
Bu hefyd yn un o uwch swyddogion HTV yn yr 1980au gan gynhyrchu nifer o raglenni ar gyfer S4C.
Roedd yn gyn-gadeirydd Bafta Cymru.
Cafodd ei eni ym Maenclochog ac fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a Choleg Yr Iesu, Rhydychen.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, 大象传媒 Cymru Wales:
"Roedd doniau darlledu Emyr yn doreithiog.
"Daeth 芒 thrylwyredd, hiwmor a chynhesrwydd i bawb a weithiai gyda nhw - o'i ddyddiau cynnar fel gohebydd a chyflwynydd yn 大象传媒 Cymru i'w yrfa amlwg yn HTV."
Dywedodd Phil Henfrey, pennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru: "Roedd Emyr Daniel yn un o ffigyrau amlycaf darlledu Cymru dros gyfnod o bedwar degawd.
"Roedd yn ffigwr amlwg yn llwyddiant HTV Cymru, a chafodd ei benodi yn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni.
"Gwleidyddiaeth a materion cyfoes oedd ei ddiddordeb mawr ac roedd yn gyflwynydd ac yn gynhyrchydd blaengar."