Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nick Clegg yn cefnogi datganoli pellach a phwerau trethu
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi dweud ei fod yn cefnogi'r syniad o fwy o ddatganoli i Gymru.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru ei fod wedi credu erioed bod dadl dros roi mwy o bwerau trethu i Gymru.
Daw ei sylwadau wedi arolwg barn ar ran 大象传媒 Cymru sy'n awgrymu bod dau draean o bleidleiswyr yn credu y dylai'r Cynulliad gael o leiaf peth dylanwad ar drethi.
Ar 么l refferendwm flwyddyn yn 么l, fe gafodd y Cynulliad bwerau deddfu, ond nid pwerau trethu.
Mewn cyfweliad ar drothwy cynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd Mr Clegg ei fod yn gredwr cryf mewn datganoli, er gwaethaf gwrthwynebiad gan bleidiau eraill.
'Rhywbeth byw'
"Yn fy marn i, allwn ni ddim symud yn ddigon cyflym," meddai.
"Rwyf wastad wedi credu mewn datganoli pellach - dwi ddim yn credu bod datganoli yn rhywbeth sy'n digwydd un diwrnod a dyna'i diwedd hi.
"Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth byw.
"Rwyf wastad wedi credu hefyd bod dadl dros roi mwy o bwerau i Gymru yngl欧n 芒 sut y mae arian yn cael ei godi a'i wario.
"Nid yw'r farn yna'n cael ei rannu gan y Blaid Lafur na'r Ceidwadwyr, ond mae'n rhywbeth yr ydw i a fy mhlaid wastad wedi credu ynddo."
Pwysleisiodd mai llywodraeth glymblaid y DU lansiodd Comisiwn Silk ar ddyfodol datganoli er mwyn ystyried os dylid trosglwyddo mwy o bwerau ariannol i Fae Caerdydd.
Dangosodd arolwg barn gan ICM ar ran 大象传媒 Cymru ddydd Iau bod 28% o bobl yn credu y dylai'r Cynulliad gael pwerau i gynyddu neu leihau trethi, gyda 36% arall yn credu y dylid trosglwyddo peth pwerau i amrywio trethi gyda chytundeb llywodraeth y DU.
Ond roedd 32% yn credu na ddylai'r Cynulliad gael unrhyw bwerau dros drethi.