Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysbyty Bronglais: Cynnal dau gyfarfod cyhoeddus
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnal dau gyfarfod cyhoeddus ddydd Llun wrth wrando ar farn trigolion am ddyfodol Ysbyty Bronglais.
Bydd yr un cyntaf yn Y Plas, Machynlleth, am 3.30pm a'r ail yng Nghanolfan Gymunedol Llanidloes am 7pm.
Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi penderfynu ymestyn cyfnod gwrando ar farn tan ddiwedd Ebrill.
Dywedodd cadeirydd bwrdd iechyd Powys, Chris Martin: "Mae rhai'n ei chael hi'n anodd i wahaniaethu rhwng gwrando ar farn ac ymgynghori.
"Yn naturiol, mae pobl am wybod beth fydd yn digwydd yn eu hysbyty nhw ac rydym yn deall y rhwystredigaeth.
'Adlewyrchu'
"Ond cyfnod gwrando yw hwn fel y gallwn nodi barn pawb fydd yn cael ei hadlewyrchu yn y cynigion. Wedyn byddwn ni'n ceisio barn am y cynigion."
Ddydd Mercher roedd 550 o ymgyrchwyr oedd yn poeni am ddyfodol Ysbyty Bronglais yn protestio tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd.
Yn annerch y protestwyr roedd AC Ceredigion, Elin Jones, yr AS Mark Williams, Yr Arglwydd Elystan Morgan cyn-AS Ceredigion, a Maer Aberystwyth Richard Boudier.
Ynghynt roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud na fyddai Ysbyty Bronglais yn cael ei israddio.
Honnodd Plaid Cymru fod Llywodraeth Cymru yn peryglu bywydau cleifion gyda'u cynlluniau i "symud gwasanaethau achub bywyd yn bellach i ffwrdd o gleifion".
Gwadodd Llywodraeth Cymru'r honiad, gan gyhuddo Plaid Cymru o "godi bwganod".
Mae Ysbyty Bronglais yn gwasanaethu Ceredigion, rhannau o Bowys a de Gwynedd.