Protest i nodi trychineb Fukushima

Ffynhonnell y llun, 大象传媒 news grab

Flwyddyn union ers y daeargryn a'r tsunami yn Japan, daeth tua 50 o brotestwyr at ei gilydd ar Ynys M么n i ddangos gwrthwynebiad i gael atomfa arall yno.

Roedd mudiad PAWB - Pobol Atal Wylfa B - wedi ysgrifennu llythyr agored at brif swyddogion nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys holl gynghorau'r gogledd a'r heddlu.

Ynddo mae'r mudiad yn gofyn a oes trefniadau digonol mewn lle i wagio Ynys M么n pe bai trychineb niwclear tebyg i Fukushima yn digwydd yn Wylfa.

Cwestiwn

Mae'r llythyr - gan gydlynydd PAWB, Dylan Morgan, yn dweud:

"Ar Fawrth 11 bydd hi'n flwyddyn union ers i drychineb niwclear Fukushima newid bywydau miloedd o bobl.

"Dyma'r drychineb niwclear fwyaf ers y ffrwydrad niwclear yn Chernobyl yn 1986. Gorfodwyd dros 80,000 o bobl o'u cartrefi yn ardal Fukushima, ac nid oes unrhyw arwydd y gallant ddychwelyd am ddegau o flynyddoedd os o gwbl.

"Dyna'r realiti creulon pan mae damwain ddifrifol yn digwydd mewn adweithyddion niwclear.

"Yr hyn yr ydym am i chi ei ystyried yw'r cwestiwn canlynol - a ydych chi'n fodlon bod eich cynlluniau yn ddigonol i gael pawb sy'n byw a gweithio o fewn 80km o'r Wylfa yn glir o berygl pe byddai rhywbeth mawr yn mynd o'i le gyda'r orsaf niwclear?

"Cofiwch mai 80km yw'r pellter diogel mewn damwain niwclear yn 么l llywodraeth yr Unol Daleithiau."

Roedd y brotest ger Pont y Borth ym Mhorthaethwy wedi ei threfnu gyda chefnogaeth mudiadau eraill gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, Greenpeace, CND Cymru a Gr诺p Heddwch Bangor ac Ynys M么n.