大象传媒

Annog Osborne i beidio 芒 chyflwyno cyflog rhanbarthol

  • Cyhoeddwyd
George OsborneFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y Canghellor yn cyflwyno ei gyllideb ddydd Mercher

Mae'r Canghellor, sy'n cyflwyno ei gyllideb ddydd Mercher, wedi cael ei annog i beidio 芒 chyflwyno cyflog rhanbarthol yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd undeb sy'n cynrychioli gweithwyr y sector cyhoeddus y byddai'r newidiadau'n golygu y byddai economi Cymru'n colli mwy na 拢1 biliwn.

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried sut i "gyfartalu" cyflogau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Ond mae rhai wedi honni y byddai pobl sy'n byw yn ardaloedd tlotaf y Deyrnas Unedig yn gorfod wynebu llai o gyflog.

'Trychinebus'

Yn yr hydref gofynnodd y Canghellor, George Osborne, i gyrff adolygu cyflogau annibynnol gyflwyno adroddiad erbyn yr haf am y posibilrwydd o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn "ymateb yn well i farchnadoedd llafur lleol".

Ond yn 么l undeb y PCS, sy'n cynrychioli aelodau sy'n gweithio i Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig, byddai effaith y cynigion yn wael.

Yn 么l y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yng Nghymru mae'r bwlch mwyaf rhwng cyflogau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Dywedodd y sefydliad fod menywod yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gallu ennill 18.5% yn fwy na'u cydweithwyr yn y sector preifat a bod dynion yn y sector cyhoeddus yn gallu ennill 18% yn fwy na'r rheiny sy'n gweithio yn y sector preifat.

Dywedodd uwch swyddog Prydeinig y sefydliad, Jeff Evans: "Mae'r ffigyrau hyn yn dangos y byddai cyflog rhanbarthol yn drychinebus i economi Cymru."

Rhewi

Ychwanegodd y gallai'r bwlch dim ond cael ei gau drwy rewi cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus tra bod cyflogau gweithwyr yn y sector preifat yn codi yn unol 芒 chwyddiant.

"Byddai'r effaith ar economi Cymru hyd yn oed yn fwy oherwydd y byddai grym gwario gweithwyr y sector cyhoeddus yn lleihau a byddai' hyn yn golygu cyflogau a refeniwiau llai i fusnesau yn y sector preifat sydd yn elwa ar y gwario ar hyn o bryd."

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod y cynigion yn "hurt".

Prynhawn Mawrth dywedodd arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood, y dylai arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru uno er mwyn gwrthwynebu cyflog rhanbarthol yn y sector cyhoeddus.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol