Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Archesgob yn arwain taith Y Groglith yn Y Barri
Mae Archesgob Cymru wedi arwain "taith y tystion" drwy strydoedd ym Mro Morgannwg Ddydd Gwener y Groglith.
Roedd y daith ddwy filltir yn arwydd o stori'r Iesu yn cario'r groes wrth i bobl o wahanol eglwysi ddod at ei gilydd.
Yn Wrecsam roedd digwyddiad tebyg.
Yn Y Barri roedd Y Parchedicaf Ddr Barry Morgan yn annerch wedi i blwyfolion gario croesbren 10 troedfedd drwy'r strydoedd.
Roedd y daith yn cychwyn am hanner dydd yn Parade Gardens ac yn dod i ben yn Yr Ardd Goffa yn Eglwys New Jerusalem.
G诺yl y banc
"Ychydig bach o wybodaeth sydd gan bobl am yr hyn y mae'r Cristion yn ei nodi ar Ddydd Gwener y Groglith," meddai'r trefnydd, Y Tad Robert Parrish o Ferthyr Dyfan, Bro Morgannwg.
"I nifer, Gwener y Pasg yw diwrnod cyntaf penwythnos G诺yl y Banc.
"Oherwydd hyn, mae'r Cristnogion yn Y Barri wedi dod at ei gilydd i rannu stori'r croeshoelio a'r atgyfodiad."
Yn Wrecsam mudiad Cyt没n drefnodd y digwyddiad ddechreuodd y tu allan i Eglwys y Drindod yn Ffordd y Brenin am 10.45am.
Roedd darlleniadau y tu allan i Amgueddfa Wrecsam, hen adeilad Marks and Spencer, Gwesty'r Wynnstay.
Pen y daith oedd Canolfan Siopa D么l yr Eryrod erbyn 12.30pm.
Band Byddin Yr Iachawdwriaeth oedd yn arwain yr orymdaith.