Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Taith Jiwbil卯 Y Frenhines yn cyrraedd Merthyr
Ar ddiwedd diwrnod cyntaf ei thaith Jiwbil卯 Ddiemwnt yng Nghymru ymwelodd y Frenhines 芒 Merthyr Tudful.
Roedd y daith wedi cychwyn yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd cyn gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Dywedodd yr heddlu fod dau wedi eu harestio mewn digwyddiadau ar wah芒n ym Merthyr.
Cafodd un ei arestio am geisio cyrraedd rhan heol oedd wedi ei chau a chafodd y llall ei arestio ar amheuaeth o dor-heddwch ger tir Castell Cyfarthfa.
Bore Llun roedd hi a Dug Caeredin mewn gwasanaeth yn yr eglwys gadeiriol i nodi 60 mlynedd ers dechrau ei theyrnasiad.
Hwn oedd pedwerydd ymweliad Y Frenhines i'r eglwys lle oedd y gwasanaeth o dan arweiniad Deon Llandaf, John Lewis.
Canmolodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, Y Frenhines am nad oedd yn anwybyddu r么l ffydd ym mywyd pobl gwledydd Prydain ac oherwydd ei hymrwymiad i wasanaethu cyhoeddus.
Roedd dros 600 yn y gwasanaeth, gan gynnwys cynrychiolwyr gwleidyddol, ac eithrio Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru, wrthododd wahoddiad.
Protest
"Llongyfarchiadau i'r Frenhines wrth iddi ddathlu 60 mlynedd," meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wrth annerch y gynulleidfa.
"Dwi'n si诺r bod pobl Cymru yn rhoi'r croeso cynnes iddi wrth iddi hi gychwyn ei hymweliad 芒 Chymru i ddathlu'r Jiwbil卯 Diemwnt."
Y tu allan i'r eglwys fe brotestiodd aelodau Gweriniaeth Gymru.
Wedi'r gwasanaeth cafodd Y Frenhines a'r Dug ginio ym Mharc Margam a chyfle i gyfarfod 芒 th卯m rygbi Cymru enillodd y Gamp Lawn.
Yno hefyd roedden nhw mewn g诺yl gymunedol cyn ymweld ag Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa ac Oriel ym Merthyr.
Yn yr amgueddfa gwelodd Y Frenhines y chwiban st锚m gyntaf, y blwch pleidleisio cyntaf a gwisgoedd Laura Ashley a Julien McDonald.
Fe wyliodd hi a'r Dug weithgareddau t卯m achub mynydd lleol, sgowtiaid Merthyr a'r Comisiwn Coedwigaeth.
Roedd tua 40 o bobl, anarchwyr, aelodau Cymdeithas yr Iaith a Chymru Goch ym Merthyr Tudful yn protestio.
Dydd Gwener fe fydd y ddau'n mynd i Aberfan, Glyn Ebwy a Pharc Glanwysg ger Crughywel.