大象传媒

DVLA wedi diswyddo tri o bobl

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys y DVLA yn AbertaweFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pencadlys y DVLA yn Abertawe

Fe ddiswyddodd asiantaeth drwyddedu'r DVLA dri o bobl yng Nghymru y llynedd am ddefnydd amhriodol o wefannau cymdeithasol.

Daeth yr wybodaeth wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cafodd un ei ddiswyddo am wneud sylwadau anaddas am y DVLA a'i chwsmeriaid ar Facebook.

Cafodd un arall ei ddiswyddo am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr a beirniadu gwasanaeth cwsmeriaid y DVLA ar wefannau Facebook a Twitter.

Diswyddwyd y llall am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr ar Facebook.

Yn ogystal, cafodd un person rhybudd ysgrifenedig y llynedd am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr ar Facebook.

Yn 2009 a 2010 ni chymerwyd unrhyw gamau disgyblu oherwydd defnydd amhriodol o wefannau cymdeithasol.

Cyfrifiaduron

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Ni all staff gael mynediad i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol o gyfrifiaduron y DVLA.

"Mae'r safleoedd hyn wedi eu hatal.

"Er mwyn eglurder, ni fu unrhyw achos o gamddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol gan ddefnyddio cyfrifiaduron y DVLA yn ystod amser gwaith."

Yn gynharach eleni, fe ddatgelodd 大象传媒 Newyddion Ar-lein bod yr asiantaeth wedi diswyddo pump o bobl yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf am dorri'r Ddeddf Diogelu Data.

Roedd y pump wedi rhyddhau gwybodaeth i drydydd person, ac roedd pedwar ohonynt wedi edrych ar y gronfa ddata am gerbydau heb awdurdod i wneud hynny.

Ers dechrau'r 1970au mae'r DVLA wedi bod yn cadw cofnod o drwyddedau gyrwyr.

Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi dros 5,000 o bobl, yn cofrestru 36 miliwn o geir a 44 miliwn o yrwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol