Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llifogydd: Pryder rhai busnesau
Mae corff twristiaeth sy'n cynrychioli 600 o fusnesau yn poeni am gyhoeddusrwydd gwael yn sgil y llifogydd diweddar.
Dywedodd Twristiaeth Canolbarth Cymru (TCC) fod y cyhoeddusrwydd wedi cael effaith negyddol ar yr ardal.
Ond dywedodd y corff fod angen sicrhau pobl fod y canolbarth ar agor i fusnes unwaith yn rhagor.
Mae disgwyl i'r llywodraeth gynnig cymorth i gwmn茂au, yn enwedig yn y sector twristiaeth.
'Peryg'
Dywedodd Cadeirydd TCC, Anne Lloyd Jones, fod rhai busnesau wedi s么n wrthi am bobl yn canslo eu gwyliau.
"Mae yna beryg os nad ydym ni yn ofalus y bydd y cyhoeddusrwydd am lifogydd y penwythnos yn perswadio pobl i beidio ag ymweld 芒'r canolbarth, a byddai hynny'n effeithio'r economi leol," meddai.
"Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn gweithio yn 么l yr arfer ac rydym yn gobeithio y bydd twristiaid yn dychwelyd y penwythnos hwn".
Fe ddioddefodd rhannau o Geredigion lifogydd pum troedfedd.
Mae'r gwaith o lanhau yn parhau yn Aberystwyth a phentrefi fel Tal-y-bont, D么l-y-bont a Llandre.