Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Byrddau iechyd: 'Diffyg mewn cyllid o 拢230m'
Mae chwe bwrdd iechyd lleol allan o saith yn proffwydo y bydd diffyg mewn cyllid o 拢230m yn y flwyddyn ariannol hon.
Dywedodd y gwrthbleidiau eu bod yn poeni am yr effaith ar gleifion.
Ynghynt ddydd Mercher rhybuddiodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod y 拢24 miliwn a roddwyd i bedwar bwrdd iechyd lleol yn "anghynaladwy".
Derbyniodd Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf, Caerdydd a'r Fro a Phowys gyfanswm o 拢24 miliwn o arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni.
Mwy o ddiffyg
Mae'r archwilydd, Huw Vaughan Thomas, wedi dweud bod y byrddau iechyd yn wynebu mwy o ddiffyg mewn cyllid wedi'r benthyciadau.
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn darogan y byddan nhw'n gwneud colled o 拢48 miliwn, gan gynnwys yr arian gafodd ei fenthyg gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.
Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn wynebu colled o 拢28.4 miliwn a Bwrdd Iechyd Powys yn wynebu colled o 拢8.1 miliwn.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn wynebu colled o 拢66.75 miliwn, heb gynnwys y 拢12 miliwn sy'n ddyledus i Lywodraeth Cymru.
Ac mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn proffwydo diffyg mewn cyllid o 拢64.6m. a Hywel Dda'n wynebu diffyg o 拢12.8m.
'Poeni'n fawr'
Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, wedi dweud: "Dwi'n poeni'n fawr am stad ariannol y byrddau iechyd lleol yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
"Os na lwyddodd pedwar i fantoli'r cyfrifon ar 么l torri gwasanaethau a gwneud arbedion enfawr, bydd yr her yn fwy anodd ...
"Dwi'n poeni y bydd yn effeithio'n andwyol ar ofal a diogelwch cleifion."
Mae'r llywodraeth wedi dweud bod y byrddau yn wynebu ymchwiliad i'w cynlluniau cynilo.
Dywedodd Mr Thomas y byddai'r byrddau iechyd heb y benthyciadau wedi methu eu dyletswyddau cyfreithiol i beidio 芒 gwneud colled.
"Bu'n rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru wynebu heriau ariannol arwyddocaol yn 2011-12 oherwydd mwy o bwysau ariannol," meddai Mr Thomas.
"Yn fy marn i, nid yw'r patrwm hanesyddol o Lywodraeth Cymru yn rhoi arian ychwanegol i fyrddau iechyd yn gynaliadwy.
"Er hynny, mae 'na arwyddion positif bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn barod i wneud y penderfyniadau anodd sydd eu hangen i ddarparu newidiadau tymor hir er bod hwn yn agenda heriol."
Ychwanegodd Mr Thomas y byddai'n cyhoeddi ei adroddiad, Cyllid Iechyd, fyddai'n asesiad manylach o sefyllfa ariannol y cyrff gwahanol a'r heriau ariannol mae'r Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu.
Adolygiad
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd yr arian ychwanegol yn "arian ar frys ar gyfer sefyllfa anodd".
"Cafodd y byrddau iechyd ganiat芒d i gael 0.2% o ariannu'r flwyddyn nesaf fel bod modd rheoli cyllid tua diwedd y flwyddyn ariannol.
"Amod hyn oedd comisiynu adolygiad ariannol allanol."
Dywedodd fod mwy na 43% o gyllideb Llywodraeth Cymru'n cael ei fuddsoddi mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol "er gwaetha toriadau mawr i'n cyllideb"