Cyhoeddi Eisteddfod 2013 yn Sir Ddinbych a'r Cyffiniau
- Cyhoeddwyd
Cafodd Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 ei chynnal ddydd Sadwrn.
Oherwydd y tywydd bu'n rhaid cynnal y seremoni gyda Gorsedd y Beirdd o dan arweiniad yr Archdderwydd Jim Parc Nest yng Nghanolfan Hamdden Dinbych.
Yn ystod y seremoni fe gyhoeddodd Jim Parc Nest taw un enwebiad oedd i fod yr Archdderwydd nesaf, Christine James, oedd wedi ei dderbyn ar gyfer swydd Archdderwydd yn ystod y cyfnod 2013-16.
"Er bod rhaid i gyfarfod blynyddol yr Orsedd gadarnhau'r enwebiad hwn yn y cyfarfod yn ystod yr Eisteddfod eleni, rwyf am gyhoeddi, a hynny'n hapus iawn, mai enw Christine James o Gaerdydd, fydd yn mynd gerbron y cyfarfod blynyddol ym Mro Morgannwg.
"Hi yw'r ferch gyntaf i gael ei henwebu fel Archdderwydd ac mae'n braf iawn cael cyhoeddi hynny," meddai.
Yn ei araith gosododd Yr Archdderwydd her i awdurdod addysg y sir.
"Y nod anrhydeddus y dylai Awdurdod Addysg Sir Ddinbych anelu ato yw bod pob plentyn o dan ei ofal yn cael y cyfle i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg."
O 10.30am ymlaen roedd digwyddiadau ar y llwyfan perfformio ar Sgw芒r y Goron ger Neuadd y Dref, ond bu'n rhaid gohirio'r Orymdaith drwy'r dref oherwydd y tywydd.
Roedd y sgw芒r yn llawn o rieni a thrigolion lleol yn dangos eu cefnogaeth i blant a phobl ifanc o bob oed ac roedd stondinau yn Neuadd y Farchnad hefyd yn brysur yn ystod y bore.
Roedd nifer o siopau'r dref wedi bod yn paratoi ar gyfer y dydd yn brysur, gyda llawer yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth addurno ffenestri i ddangos cefnogaeth busnesau a chwmn茂au lleol, a'r croeso sydd eisoes yn bodoli i ymweliad yr Eisteddfod.
"Mae G诺yl y Cyhoeddi yn garreg filltir arbennig wrth i ni baratoi i weld y Brifwyl yn dychwelyd i'r sir," meddai Hugh Evans, arweinydd y cyngor sir.
'Ffenest siop'
"Anodd credu bod yr amser wedi hedfan heibio ers i swyddogion yr Eisteddfod a'r Cyngor gychwyn trafodaethau am y posibilrwydd o'r 诺yl yn dychwelyd i'r fro.
"Mae llawer o waith eisoes wedi mynd rhagddo yn y sir ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Eisteddfod, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled y sir i gynnig croeso cynnes yn Sir Ddinbych.
"Mae'r 诺yl yn ffenest siop arbennig i ni ddangos i weddill Cymru beth sydd gan y sir i'w gynnig."
Cyn y Seremoni Gyhoeddi dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, eu bod yn falch bod cynifer o bobl a chymdeithasau wedi ymateb i'r gwahoddiad i fod yn rhan o'r orymdaith a'r 诺yl.
'Diwrnod arbennig'
"Gobeithio y bydd yn ddiwrnod arbennig i'r teulu oll, ac y gallwn roi rhagflas i bobl Dinbych a gweddill Sir Ddinbych a'r ardaloedd cyfagos o'r hyn sydd i ddod yn ystod mis Awst y flwyddyn nesaf."
Ar ddiwedd y dydd dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, eu bod wedi cael digwyddiad arbennig o lwyddiannus yn nhref Dinbych, gyda chroeso brwd a chydweithio hapus.
"Braf oedd gweld cynifer o bobl leol wedi dod atom i ddangos eu cefnogaeth i'r Eisteddfod pan y daw i'r ardal y flwyddyn nesaf.
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth, i'r pwyllgorau lleol am eu holl waith a'u hymroddiad, a chyda'r rhestr testunau wedi'i chyhoeddi, ddymuno'n dda i bawb sy'n meddwl am gystadlu, gan obeithio y bydd y testunau'n apelio at nifer fawr o feirdd, llenorion a chantorion.
"Chawsom ni mo'r tywydd roeddan ni wedi gobeithio'i gael, ond hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd mor galed er mwyn sicrhau bod y seremoni wedi digwydd ar yr adeg iawn yn Ninbych ddydd Sadwrn."
Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir Fferm Kilford ar gyrion Dinbych rhwng Awst 3 a 10, 2013.
Hwn oedd lleoliad yr Eisteddfod yn 2001, blwyddyn anodd i'r diwydiant amaeth oherwydd clwy'r traed a genau.
Yr hyn sy'n nodweddiadol am gysylltiad yr Eisteddfod 芒'r ardal yw mai yno'r cr毛wyd hanes wrth i ferched ennill y prif wobrau llenyddol am y tro cyntaf.
Dilys Cadwaladr enillodd y Goron yn Y Rhyl yn 1953 a Mererid Hopwood enillodd y Gadair yn 2001.
Cymanfa
Nos Sul roedd y dathliadau'n parhau gyda Chymanfa'r Cyhoeddi yng Nghapel y Tabernacl, Rhuthun, am 8pm.
Beryl Lloyd Roberts oedd yn arwain, Tim Stuart yn canu'r organ a Ch么r yr Eisteddfod yn perfformio.
Roedd rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio'r Gymanfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2012