大象传媒

'Gweinidog yn sathru ar gyrff iechyd'

  • Cyhoeddwyd
Stethosg么pFfynhonnell y llun, Gwyddoniaeth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu nifer o brotestiadau yn y Senedd eleni yn erbyn newidiadau i'r gwasanaeth iechyd

Mae'r gweinidog iechyd wedi ei chyhuddo o sathru ar gyrff iechyd annibynnol mewn ffrae dros newidiadau i'r gwasanaeth iechyd.

Mae Lesley Griffiths wedi rhybuddio aelodau o Gynghorau Iechyd Cymunedol na fydd hi'n bosib iddyn nhw wrthwynebu cynlluniau gan Fyrddau Iechyd i ad-drefnu gwasanaethau.

Mae nifer o wleidyddion yn honni y bydd y newidiadau yn arwain at israddio rhai ysbytai.

Yn 么l llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, mae'r llywodraeth yn gweithredu mewn modd "llawdrwm". Galwodd Mr Millar ar aelodau o'r Cynghorau i gael rhyddid i leisio'u barn.

Mewn araith i aelodau o'r byrddau, dywedodd Mrs Griffiths: "Ni all Cynghorau Iechyd Cymunedol fod yn blwyfol. Mae'n rhaid i chi ystyried nid yn unig ofynion y boblogaeth leol ond gofynion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gyfan.

"Mae hyn wedi bod yn her i chi, ac yn parhau i fod.

"Ond rydw i'n glir na all aelodau o Gynghorau Iechyd Cymunedol gyflawni dwy r么l. Ni allant fod yn Aelod o Gyngor wrth ymgyrchu ar yr un pryd yn erbyn cynigion i ad-drefnu gwasanaethau sydd dan ystyriaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol."

'Sensitif'

Rhybuddiodd Aelodau hefyd rhag gollwng unrhyw wybodaeth "sensitif" a ddaw i law gan y Byrddau Iechyd.

Bu nifer o brotestiadau yn y Senedd eleni yn erbyn newidiadau i'r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Mr Millar: "Agwedd y Gweinidog yw nad oes dewis ond cefnogi safbwynt y llywodraeth. Rhaid i'r unbennaeth yma ddod i ben yn syth.

"Dyw hyn yn ddim llai nag rhybudd llawdrwm sy'n ymgais i sathru ar unigolion a'u hatal rhag lleisio barn.

"Mae'r goblygiadau'n ddigon clir: 'cefnogwch ad-drefnu ysbytai, pa mor bynnag amhoblogaidd neu amwys yw'r cynlluniau, neu ymddiswyddwch'.

"A ydy'r gweinidog wedi anghofio fod aelod ei phlaid ei hun yn ddigon hapus i ymgyrchu yn erbyn ei chynlluniau? Dylai aelodau o Gynghorau Iechyd Cymunedol fod yr un mor rhydd i leisio barn."

Mae disgwyl i'r cynigion cyntaf am ad-drefnu gwasanaethau gael eu cyhoeddi ym mis Awst gan Fyrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr. Bydd cynlluniau byrddau'r De, sy' wedi cyd-lynu'u cynigion, yn cael eu cyhoeddi fis Hydref.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol