Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhwyg ymhlith Ceidwadwyr am ddiwygio T欧'r Arglwyddi
Mae dros 100 o aelodau'r Blaid Geidwadol yn bygwth gwrthryfela yn erbyn y Llywodraeth ar gynlluniau i ddiwygio'r T欧'r Arglwyddi.
Mae'r 大象传媒 wedi cael ar ddeall fod dros 70 wedi arwyddo llythyr yn erbyn diwygio T欧'r Arglwyddi, yn eu plith Guto Bebb (Aberconwy) ac Alun Cairns (Bro Morgannwg).
Nos Fawrth fe fydd yr ASau yn pleidleisio ar amserlen ar gyfer y mesur wedi i'r drafodaeth gychwyn ddydd Llun.
Gall hyn olygu fod David Cameron yn colli pleidlais yn y Senedd am y tro cyntaf ers iddo ddod yn Brif Weinidog yn 2010.
Roedd yna anhapusrwydd ar feinciau'r T欧'r Arglwyddi ddydd Llun hefyd yngl欧n 芒'r cynlluniau.
Mae'r llywodraeth yn San Steffan am weld ail siambr lai ac un gyda'r mwyafrif wedi eu hethol.
Fe allai'r penderfyniad achosi rhwyg yn y glymblaid o ystyried fod diwygio T欧'r Arglwyddi yn flaenoriaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.