Cytundeb 拢370m i gwmni o Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Wrecsam wedi arwyddo cytundeb gwerth 拢370 miliwn i gyflenwi cydrannau ar gyfer cwmni Airbus, a'u ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint.
Mae'r cytundeb yn ehangu ar berthynas sydd eisoes yn bodoli rhwng Airbus a chwmni Magellan Aerospace i gyflenwi cydrannau alwminiwm a thitaniwm ar gyfer adenydd awyrennau'r A320, A330 ac A380, ac fe fydd yn rhedeg tan Ragfyr 2019.
Eisoes mae Magellan wedi arwyddo cytundeb arall ar gyfer cydrannau i'r awyren A350 ym Mrychdyn, ond mae'r cytundeb newydd wedi galluogi Magellan i fuddsoddi 拢15 miliwn o gyfalaf.
Dywedodd llywydd a phrif weithredwr Magellan, James S. Butyniec: "Mae'r cytundeb tymor hir yma yn dangos ein hymroddiad i ddatblygu perthynas gyda'n cwsmeriaid ac i fuddsoddi'r adnoddau angenrheidiol i gefnogi eu hanghenion i'r dyfodol.
"Rydym yn falch bod gan Airbus hyder yn ein gallu i ddarparu nwyddau ar gyfer eu hawyrennau."
Mae Magellan yn gwmni cyhoeddus sy'n masnachu cyfranddaliadau ar y farchnad stoc yn Toronto, ac mae ganddynt unedau cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, Canada, y DU ac India.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2012
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012