Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi prif ffigyrau poblogaeth Cymru o Gyfrifiad 2011.
Bydd y canlyniadau ddydd Llun yn cynnwys y prif ffigwr 'pennawd' ar gyfer y boblogaeth ynghyd 芒 dadansoddiad, fesul awdurdod lleol, yn 么l oedran a rhyw.
Dywed y Swyddfa na fydd ystadegau ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru nac atebion i gwestiwn y Cyfrifiad am hunaniaeth genedlaethol yn rhan o'r canlyniadau cyntaf yma.
Bydd y ffigyrau hynny'n cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach eleni.
Cyfrifiad 2011 - gafodd ei gynnal ddydd Sul, Mawrth 27, 2011 - oedd y tro cyntaf i bobl fedru cofnodi eu bod yn Gymry, hyd yn oed os oedden nhw'n byw mewn rhannau eraill o Brydain.
Yn 2000 fe wnaeth Aelodau'r Cynulliad bleidleisio'n unfrydol dros gynnwys y blwch "Cymry" ar y ffurflen yn 2001 ond roedd hi'n rhy hwyr i'w newid.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai'r ffaith nad oedd y blwch wedi cael ei gynnwys ar y ffurflen yn 2001 arweiniodd at y nifer mwyaf o gwynion.
Caiff yr arolwg ei gynnal ar ran y llywodraeth bob 10 mlynedd.
Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2001 fod 2,903,000 o bobl yn byw yng Nghymru, cynnydd o 1% (sef 30,000) o bobl o'i gymharu 芒 1991.
Roed 14% o bobl wedi datgan eu bod yn Gymry er nad oedd blwch ticio penodol ar y ffurflen.